Rhodri Talfan Davies
Mae pennaeth newydd BBC Cymru wedi dweud y bydd rhaid i S4C fod yn atebol mewn rhyw ffordd i’r Gorfforaeth.

Ond roedd Rhodri Talfan Davies yn mynnu y byddai’r sianel yn parhau’n rhydd i wneud ei phenderfyniadau ei hun ynglŷn â chynnwys a rhaglenni.

Wrth siarad ar ei ddiwrnod cynta’n Gyfarwyddwr BBC Cymru, fe ddywedodd y byddai’n rhaid i’r BBC “gael rhyw lefel o atebolrwydd” gan S4C pan fydd y sianel yn dechrau derbyn y rhan fwya’ o’i harian trwy’r Gorfforaeth.

Dyna fyddai’r pris am fod peth o arian y drwydded deledu yn mynd i Barc Tŷ Glas, meddai ar raglen newyddion Radio Wales.

Mae Golwg360 yn deall fod yr egwyddor honno wedi ei derbyn gan S4C ond fod dadlau’n parhau ynglŷn ag union faint yr atebolrwydd.

Trafodaeth

Fis yn ôl fe awgrymodd Cadeirydd Awdurdod S4C, Huw Jones, wrth Golwg360 fod trafodaeth yn digwydd ynglŷn a chynrychiolaeth y BBC ar yr Awdurdod.

Ond fe roddodd Rhodri Talfan Davies sicrwydd hefyd y byddai arian rhaglenni’n dal i fynd i gynhyrchwyr annibynnol ac mai S4C fyddai’n “gwneud dewisiadau golygyddol ac o ran rhaglenni”.