Gwariodd Plaid Cymru Ieuan Wyn Jones £173,139
Gwariodd pleidiau gwleidyddol Cymru fwy na £800,000 yn ystod ymgyrch etholiadau’r Cynulliad, cyhoeddwyd heddiw.
Mae’r Comisiwn Etholiadol wedi cyhoeddi gwariant terfynol po plaid yn ystod yr etholiadau datganoledig ym mis Mai.
Y Ceidwadwyr Cymreig wariodd y mwyaf o arian, sef dros £250,000. Fe fyddwn nhw’n datgelu’r ffigwr terfynol ym mis Rhagfyr.
Gwariodd Plaid Cymru £173,139, y Blaid Lafur £153,009, a’r Democratiaid Rhyddfrydol £144,178.
Roedd deg plaid arall wedi datgelu faint oedden nhw wedi ei wario, hefyd.
Gwariodd plaid Rhoi Llanelli’n Gyntaf Sian Caiach, oedd yn cael ei feio gan rai am ddwyn pleidleisiau gan Blaid Cymru a rhoi’r sedd ar blât i Lafur, £2,720.
Roedd y BNP wedi gwario £20,141 a’r Blaid Werdd £56,944.
Gwariodd y Monster Raving Looney Party yr un geiniog.
Dywedodd y sylwebydd gwleidyddol, Gareth Hughes, nad oedd y ffigyrau yn ei synnu.
“Mae pob un o’r pleidiau gwleidyddol yng Nghymru wedi gorfod gweithio’n galetach er mwyn sicrhau fod eu neges yn cyrraedd yr etholwyr,” meddai.
“Dyw’r cyfryngau yng Nghymru ddim mor gryf â hynny ac felly mae llawer o bobol yn cael eu gwybodaeth gan gyrff a phapurau newydd sydd o Loegr.
“Dyw’r un peth ddim yn wir am Ogledd Iwerddon a’r Alban.”
Yn ôl rheolau’r Comisiwn Etholiadol y pleidiau yn cael gwario £600,000 yr un ar yr etholiad.
Gwariant pob plaid
Y Ceidwadwyr Cymreig – dros £250,000 (y ffigwr cyflawn heb ei ddatgan eto)
Y BNP – £20,141
Y Blaid Gristnogol – £2,480
Plaid Gomiwnyddol Prydain – £1,905
Y Blaid Gydweithredol – £228
Plaid Democratiaid Lloegr – £2,297
Y Blaid Werdd – £56,944
Y Blaid Lafur – £153,009
Y Democratiaid Rhyddfrydol – £144,178
Llais Gwynedd – £432
YMonster Raving Loony Party – £0
Plaid Cymru – £173,139
Rhoi Llanelli’n Gyntaf – £2,720
Y Blaid Lafur Sosialaidd – £3,173
Y Glymblaid Sosialaidd a’r Undebau Llafur – £240
UKIP – £55,931
Cyfanswm – £586,817
Y gwario
Darllediadau gwleidyddol: £93,662
Hysbysebu: £81,399
Pamffledi ayyb: £276,595
Maniffestos: £20,828
Ymchwil a chanfasio: £50,550
Cynadleddau i’r wasg: £2,080
Trafnidiaeth: £20,298
Ralïau a digwyddiadau eraill: £5,425
Costau gweinyddol: £35,441