Mae dau gefnogwr ralio ceir yng Nghymru yn wynebu cael eu gwahardd o fforwm drafod am ddefnyddio’r Gymraeg.

Yn ôl Huw Myfyr a Steven John Williams o Wynedd mae angen i fforwm British Rally newid ei enw i English Rally neu gydnabod yr iaith Gymraeg fel iaith gyfartal.

Ond yn ôl sylfaenydd y wefan, mae’r canllawiau yn glir mai Saesneg yw unig iaith y Fforwm ac na fydd yn creu gwefan Gymraeg.

Mae’r ddau’n gynddeiriog am fod eu sylwadau’n llongyfarch raliwyr o Gymru ar fforwm British Rally wedi cael eu tynnu gan y perchennog a’r ddau wedi cael rhybudd i ddefnyddio Saesneg yn unig.

“Mae’r rhan fwyaf o’r ralis lôn yn cael eu cynnal yng Nghymru ond maen nhw’n cymryd y piss o’r iaith Gymraeg, mae o fel Welsh Not!” meddai Huw Myfyr o Bwllheli.

“Yr wythnos ddiwetha’ o’n i wedi postio sylw yn dweud da iawn Wenna (Roberts, Clwb Moduro Epynt) am dy waith da ac mi gafodd ei chwalu a ges i rybudd mai fforwm Saesneg yn unig oedd hi,” meddai. Fe gyhuddodd y gwefeistr sy’n rheoli’r wefan o fod yn hiliol ac fe ymunodd eraill yn y ffrae.

Darllenwch weddill y stori yng nghylchgrawn Golwg, 25 Awst