Bethan Jenkins
Mae Plaid Cymru wedi galw ar reolwyr y BBC i beidio a chael gwared ar raglenni materion cyfoes Cymraeg wrth dorri’n ôl ar wariant.

Dywedodd y blaid fod rhaglenni materion cyfoes drwy gyfrwng y Gymraeg yn “chwarae rhan hanfodol yn nemocratiaeth y genedl”.

Dywedodd Bethan Jenkins, llefarydd Plaid Cymru ar ddiwylliant a darlledu, ei bod yn pryderu am sibrydion fod cynlluniau ar y gweill gan uwch-reolwyr y BBC i dorri rhaglenni gan gynnwys Manylu a Taro Naw.

Dywedodd yr Aelod Cynulliad ei bod hi wedi ysgrifennu at gyfarwyddwr newydd BBC Cymru, Rhodri Talfan Davies, ar y pwnc.

“Er ei fod yn cydymdeimlo â’m pryderon, mae’r mater yn dal yn destun trafodaethau,” meddai Bethan  Jenkins.

“Mae’n bwysig bod rheolwyr yma yng Nghymru ac unrhyw un arall sy’n rhan o bennu cyllidebau yn sylweddoli pwnc mor bwysig yw hwn o hyd i fywyd cyhoeddus Cymru a sut y mae pobl yn ymwneud ag ef.

“Mae’n bwysicach nac erioed cael ymdriniaeth lawn o wleidyddiaeth Cymru ar y cyfryngau, fel y gall y cyhoedd graffu ar waith gwleidyddion.”

‘Blaenoriaeth’

Dywedodd fod adroddiadau diweddar ar y cyfryngau Cymreig yn gwneud iddi ddrwgdybio fod uwch-reolwyr y BBC yn cynllunio toriadau sylweddol i gynnyrch Cymraeg BBC Cymru.

Daw hynny er gwaethaf datganiadau gan gadeirydd y BBC, Chris Patten, a ddywedodd y dylai amddiffyn gwasanaethau Arabeg, Somali a Hindi ar wasanaeth byd y BBC fod yn flaenoriaeth, meddai.

Ychwanegodd fod Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC, Mark Thompson, hefyd wedi dweud y bydd rhaglenni fel Newsnight a Question Time yn cael eu diogelu.

“Rwy’n bryderus iawn am y sibrydion am gynlluniau i dorri’r cynnyrch cyfrwng Cymraeg, gan y gallai hyn greu gwactod democrataidd,” meddai.

“Mae Chris Patten wedi amlygu mor bwysig yw gwasanaethau Arabeg, Somali a Hindi i siaradwyr yr ieithoedd hynny, a fedra’i ddim gweld pam y dylai’r Gymraeg gael ei thrin yn wahanol.

“Mae pwysigrwydd ein darlledu materion cyfoes wedi ei gydnabod gan Mark Thompson sydd wedi addo gwarchod rhaglenni fel Newsnight a Question Time; dylai’r un egwyddor fod yn wir yng Nghymru.

“Wrth gwrs, rwy’n cydnabod fod y BBC yn cael eu gorfodi i wneud toriadau mawr. Fodd bynnag, Rydw i dal yn annog rheolwyr BBC Cymru i ystyried effaith tymor hir torri rhaglennu materion cyfoes cyfrwng Cymraeg ar ddemocratiaeth, a’r niwed fyddai’n deillio o hyn.”