Rhai o'r cardiau sydd ar gael
Mae elusen wedi gorfod ail argraffu eu catalog Nadolig ar ôl cynnwys cardiau dwyieithog oedd yn cynnwys Cymraeg gwallus.

Roedd y Gymdeithas Alzheimer’s wedi gobeithio mynd i hwyl yr ŵyl drwy gynnwys cardiau Cymraeg eleni.

Ond pan gyrhaeddodd y catalogau sylwodd cwsmeriaid fod y negeseuon yn cynnwys: “Yn deisyf ‘ch a ‘n arab Nadolig a a ‘n ddedwydd ‘n grai blwyddyn”.

Mae’r negeseuon eraill yn cynnwys “ag pawb da ddymuniadau achos Nadolig a ‘r ‘n grai blwyddyn”(with all good wishes for Christmas and the New Year) ac “yn deisyf ‘ch a ‘n arab Nadolig” (wishing you a merry Christmas).

Dywedodd un cyfieithydd oedd wedi derbyn y catalog fod y negeseuon yn amlwg yn wallus, a’i fod wedi tynnu sylw Bwrdd yr Iaith Gymraeg at y mater.

“Mae’r Gymraeg sydd ynddyn nhw’n ‘Sgymraeg’,” meddai Siôn Rees Williams o Swydd Bedford wrth Golwg360.

“Dydw i ddim yn gwybod beth sydd wedi ei argraffu yn y cardiau eu hunain – fyddwn i ddim yn eu harchebu nhw os yw’r Gymraeg yn wallus.

“Ond mae pum cerdyn yn y catalog ac maen nhw i gyd ond un yn wallus.

“Mae’n bwysig peidio dilorni am eu bod nhw wedi gwneud ymdrech i gynnwys y Gymraeg ar eu cardiau.

“Ond mae yna beryg eu bod nhw yn colli cwsmeriaid a gwastraffu pres drwy gyhoeddi rhywbeth fel yma. Dydyn nhw ddim wedi bod yn broffesiynol.”

‘Ail argraffu’

Dywedodd Marian Sarfo-duah o’r Gymdeithas Alzheimers wrth Golwg 360 eu bod nhw wedi gohirio anfon y cylchgronau i Gymru.

“Bydd y cylchgronnau i Gymru yn cael eu hail argraffu,” meddai. Ychwanegodd mai yn y cylchgrawn yn unig yr oedd y broblem ac nad oedd cardiau wedi eu hargraffu eto.

Roedd y cyfieithiadau yn eu siop ar y wefan yn gywir meddai – er bod ‘Nadolig’ wedi ei sillafu yn anghywir yno.

“Allwn ni ddim galw’r holl gatalogau unigol sydd wedi mynd allan yn ôl. Ond, rydyn ni’n ailargraffu’r catalogau ar gyfer y swyddfeydd lleol a hefyd yn cyfeirio pawb at y wefan,” meddai.

“Dim ond yn y catalog mae’r cyfarchion anghywir. Os ydi rhywun yn archebu o’r catalog fe fydd y cardiau yn cynnwys y cyfarchion cywir.”

Dywedodd fod yr elusen wedi cyhoeddi un cerdyn Cymraeg y llynedd, ond ei fod mor boblogaidd eu bod nhw wedi penderfynu cyhoeddi rhagor eleni.

Roedden nhw’n gobeithio parhau i’w cyhoeddi’r flwyddyn nesaf, meddai.