Leighton Andrews - y BAC yn bwysig
Mae’r Gweinidog Addysg wedi amddiffyn canlyniadau arholiadau Lefel ‘A’ Cymru gan ddweud eu bod nhw’n “rhagorol”.

Ac fe ymosododd Leighton Andrews ar y BBC gan eu cyhuddo o fethu â chydnabod pwysigrwydd arholiadau BAC yng Nghymru.

Roedd y rheiny’n golygu bod y drefn arholiadau’n wahanol yng Nghymru o’i gymharu â Lloegr ac mae’r cymhwyster yn cyfateb i radd A mewn Lefel ‘A’.

Bum mlynedd yn ôl, meddai Leighton Andrews wrth Radio Wales, roedd llai na 500 o bobol ifanc yn gwneud cwrs BAC, eleni roedd bron 7,000 yn ei ddilyn.

Er ei fod yn cydnabod bod llai o ddisgyblion yng Nghymru wedi cael y graddau ucha’ yn eu Lefel ‘A’, ymylol oedd y cwymp, meddai, cyn pwysleisio ei fod eisiau gweld gwell canlyniadau.

Cael ei herio

Fe gafodd ei herio ar raglen fore Radio Wales ar ôl dweud ym mis Chwefror bod angen i ganlyniadau wella ac am fod rhai prifysgolion – fel Caergrawnt – yn gwrthod cydnabod y BAC.

“Mae gyda ni gymhwyster yng Nghymru nad yw i’w gael yn Lloegr,” meddai. “Pan fyddwch chi’n edrych ar ganlyniadau, rhaid i chi edrych ar y canlyniadau cyfan.”

Fe wrthododd honiad ei fod yn ymosod yn bersonol ar ohebydd addysg BBC Cymru, Ciaran Jenkins, cyn dweud, “yn sicr fyddai e ddim wedi cael A* ddoe”.