Faint fydd yn cyrraedd y seremoni raddio?
Mae Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru wedi dweud eu bod nhw’n “pryderu” am bobol ifanc sy’n casglu eu canlyniadau Lefela heddiw.

Oherwydd prinder llefydd ym Mhrifysgolion Cymru a diweithdra uchel iawn ymhlith pobol ifanc fe fydd y blynyddoedd nesaf yn rai llwm iawn i ddegau o filoedd ohonyn nhw, meddai’r undeb.

Caiff y canlyniadau Lefela heddiw eu cyhoeddi diwrnod ar ôl ffigyrau sy’n dangos fod un ym mhob pump o bobl rhwng 16 a 25 oed yn ddi-waith.

Cyhoeddwyd ddoe bod 8.4% o weithlu Cymru, neu 122,000 o bobl, yn ddi-waith, y canran mwyaf yng ngwledydd y Deyrnas Unedig.

Mae yna fwy o gystadleuaeth yn system glirio yng Nghymru nag yng ngweddill y Deyrnas Unedig, meddai Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru.

Mae’r nifer sy’n ymgeisio am le mewn prifysgol wedi cyrraedd lefel uwch nag erioed o’r blaen, sef 669,956.

Mae’n debygol y bydd tua 250,000 o bobl yn ymgeisio am ychydig dros 40,000 o leoedd drwy’r system glirio heddiw, sy’n golygu y gallai cymaint â 210,000 golli allan.

Daw hynny wrth i fyfyrwyr frysio i fynd i’r brifysgol cyn i ffioedd gynyddu hyd at £9,000 ym mis Medi 20132.

Bydd llawer o fyfyrwyr Lefela yn wynebu’r dewis anodd o geisio canfod swyddi sy’n brin iawn, gwirfoddoli mewn swyddi digyflog, cymryd blwyddyn allan neu geisio am le mewn prifysgolion dramor, meddai Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru.

“Mae’r canlyniadau eleni unwaith eto’n gyfle i ddathlu cyraeddiadau’r dysgwyr

dawnus sydd gennym yma yng Nghymru. Dylem yn gyntaf eu llongyfarch ar yr

hyn maent wedi ei gyflawni,” meddai Llywydd UCM Cymru, Luke

Young/

“Mae hefyd angen i ni ystyried y miloedd o ddysgwyr, gyda chanlyniadau lefel A da, a fydd yn ei chael yn anodd canfod lle mewn prifysgol eleni. Mae’n bwysig sicrhau fod pawb yn cael y cyfle gorau i fynd i mewn i addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant.

“Dylai’r wythnos hon fod ynglŷn â sicrhau fod myfyrwyr yn derbyn cyngor clir a chywir i’w cynorthwyo i wneud y penderfyniad iawn ar gyfer eu dyfodol. Mae angen cefnogaeth ddigonol i sicrhau nad oes unrhyw un yn colli allan. ”

Y system glirio

Aberystwyth – nid ydynt yn ymgymryd â’r broses glirio

Bangor – nifer gyfyngedig o leoedd ar gael, ffoniwch 0800 085 1818 (Saesneg) neu 0800 328 5763 (Cymraeg)

Caerdydd – tua 300 o leoedd, cysylltwch â 029 2087 6000 neu ewch i’r wefan

Morgannwg – “cyfle gweddol” o ganfod lle, cysylltwch â 0845 5190111 neu ewch i’r wefan

Glyndwr – nifer gyfyngedig o leoedd ar gael, cysylltwch â 01978 293439

Casnewydd – tua 160 o leoedd, cysylltwch â 01633 435001-7 neu ewch i’r wefan

Abertawe – nifer gyfyngedig o leoedd ar gael, cysylltwch â 0800 094 9071 neu ewch i’r wefan

Metropolitan Abertawe – tua 200 o leoedd, cysytlwch â 0800 731 0884 neu ewch i’r wefan

Y Drindod Dewi Sant – dim manylion ar gael ar leoedd drwy’r system glirio, cysylltwch â 0300 500 1822

Athrofa PC Caerdydd – nifer fach iawn o leoedd, cysylltwch â 029 2041 6044