Mae un o Ysgrifenyddion Pwyllgor Gwaith Eisteddfod yr Urdd Eryri 2012 yn talu arian coll yn ôl i un o gylchoedd lleol y mudiad.

Mae Arwyn Owen Hughes o Lithfaen ger Pwllheli wedi ymddiswyddo’n ddiweddar o fod yn Ysgrifennydd Cylch Llŷn i’r Urdd.

Roedd y mater wedi cael ei gyfeirio at yr heddlu ond does neb wedi ei gyhuddo ac mae ymchwiliad yr heddlu ar ben.

Ddydd Llun, dywedodd Cyfarwyddwr Busnes a Phersone1 yr Urdd, Mai Parry Roberts, eu bod “yn delio efo hynny” ac erbyn dydd Mawrth roedd enw Arwyn Owen Hughes wedi ei dynnu oddi ar dudalennau’r Eisteddfod ar wefan yr Urdd.

Dywedodd hefyd bod yr arian coll “wedi bod yn fater o gonsyrn” ac “mae’r Urdd wedi cael ad-daliad”.

Mewn ymateb i ymholiad gan gylchgrawn Golwg yn benodol am Arwyn Owen Hughes, cadarnhaodd llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru bod heddweision wedi “arestio dyn o ochrau Pwllheli ar ddrwgdybiaeth o ddwyn”.

Yna fe ychwanegodd: “Yr ydym wedi delio efo’r mater a does neb wedi ei gyhuddo a dyw ymholiadau’r heddlu ddim yn parhau”.

Darllenwch weddill yr erthygl yng nghylchgrawn Golwg, 18 Awst