Simon Richardson
Mae medalwr Paralympaidd o Gymru wedi ei anafu mewn gwrthdrawiad ym Mhen y Bont ar Ogwr.

Enillodd Simon Richardson MBE, o Borthcawl, ddwy fedal aur ac un arian yng Ngemau Paralympaidd Beijing 2008.

Roedd yn seiclo i’r dwyrain ar hyd yr A48 am 9.40am heddiw pan gafodd ei daro gan fan wen oedd yn mynd i’r un cyfeiriad.

Cafodd Simon Richardson ei daflu o’i feic i ochor y ffordd. Gyrrodd y fan yn ei flaen i gyfeiriad y Bont-faen heb stopio.

Gwrthdarodd dau gar arall, Toyota Avensis Estate du, a Rover 25 aur yn fuan wedyn. Roedd dyn 43 oed yn gyrru’r car cyntaf a dynes 74 oed yn gyrru’r ail.

Galwyd y gwasanaethau bryd a chafodd Simon Richardson a’r gyrrwr benywaidd driniaeth feddygol yn y fan a’r lle.

Aethpwyd a Simon Richardson mewn ambiwlans awyr i Ysbyty Athrofaol Caerdydd ac mae’n cael ei drin yno am sawl anaf.

Aethpwyd a’r gyrrwr benywaidd i Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen y Bont ar Ogwr a derbyn triniaeth am anafiadau i’w brest. Mae hi bellach wedi ei rhyddhau.

Mae’r heddlu eisiau siarad ag unrhyw un welodd y gwrthdrawiad. Cafodd y ffordd ei gau am bedair awr wrth i’r heddlu ymchwilio.