Mae pedwar dyn wedi eu cyhuddo o ymosodiad rhywiol ar ddyn 24 oed.

Daethpwyd o hyd i’r dyn wedi ei anafu ym Mhenbryn, ger Y Coed Duon.

Dywedodd Heddlu Gwent fod dynion 21 a 19 oed, o Oakdale, Caerffili, a dyn 21 oed o Groespenmaen wedi eu cyhuddo o achosi niwed corfforol ac ymosodiad rhywiol difrifol.

Mae dyn arall 22 oed o Trinant wedi ei gyhuddo o ymosodiad rhywiol.

Fe fyddwn nhw’n ymddangos o flaen Llys Ynadon Caerffili heddiw.

Mae un ddynes a tri dyn arall wedi eu cyhoeddi ar fechnïaeth wrth i’r heddlu ymchwilio.