Mae ymgyrchwyr iaith wedi galw ar weinidog i ymyrryd er mwyn sicrhau nad yw un o ysgolion Cymraeg Sir y Fflint yn gorfod rhannu camwps ag ysgoli Saesneg.

Dywedodd Cymdeithas yr Iaith y dylai Gweinidog Addysg Cymru, Leighton Andrews, anfon neges frys at Gyngor Sir Fflint yn dweud wrthynt i beidio a bwrw ymlaen â’r cynllun.

Yn ôl y Gymdeithas fe fydd yn “wastraff amser ac arian” ac yn “tanseilio addysg Gymraeg yn y sir”.

Am 2.30pm brynhawn yfory bydd Cygor Sir y Fflint yn trafod a ddylai Ysgol Gymraeg Gwenffrwd symud i gampws ysgolion gynradd ac uwchradd saesneg ei gyfrwng yn Nhreffynnon.

Mae ymgyrchwyr Sir y Fflint Dros Addysg Gymraeg wedi trefnu gorymdaith rhwng Siambr y Cyngor a Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug, am 1.30pm.

“Mae ystyried effaith unrhyw ad-drefnu addysg ar yr iaith Gymraeg yn un o’r criteria sylfaenol a osodir gan Lywodraeth Cymru,” meddai Ffred Ffransis o’r Gymdeithas.

“Cymerwn nad oes unrhyw bosibiliad yn y byd y byddai’r Gweinidog Addysg yn caniatau’r fath gynlluniau dinistriol gan Gyngor Sir Fflint.

“Felly yr ydym wedi gofyn iddo ymyrryd yn syth trwy anfon neges at y cyngor cyn eu cyfarfod yfory i’w cynghori i beidio á gwastraffu amser ac arian cyhoeddus yn datblygu cynlluniau nad oes unrhyw bosibiliad iddynt gael eu gweithredu.

“Dylai’r Cyngor gydweithio’n hytrach gyda llywodraethwyr a rhieni i ddatblygu addysg Gymraeg fel rhan sylfaenol o gynllunio at y dyfodol.”