Mae disgwyl canlyniad post mortem wrth i’r heddlu barhau i ymchwilio i farwolaeth dynes 34 oed mewn gwersyll ger Caernarfon.

Mae cwest Tracy Anne Elizabeth Screen bellach wedi ei agor a’i ohirio.

Aethpwyd a dau o’i phlant a’i gŵr i’r ysbyty bore ddoe ac maen nhw mewn cyflwr sefydlog. Mae disgwyl iddynt gael eu rhyddhau yn ddiweddarach.

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi dweud nad ydyn nhw’n ystyried y farwolaeth yng ngwersyll Aberafon, ger Gyrn Goch, yn un amheus.

Roedd y gwasanaethau brys wedi cyrraedd y gwersyll tua 9.30am bore ddoe.

Yn ôl llefarydd ar ran y gwersyll roedd cwpwl oedd yn gwersylla drws nesaf wedi tynnu’r plant, pedair a saith oed, o’r babell ar ôl sylweddoli fod rhywbeth o’i le.

Y gred yw bod nwyon gwenwynig o farbeciw wedi mygu’r teulu sydd o Chesterfield yn Swydd Derby.

Ond dyw’r heddlu heb gadarnhau eto sut yn union y bu hi farw. Dywedodd llefarydd fod y farwolaeth yn un “heb esboniad, ond ddim yn un amheus”.

Cyrhaeddodd y  teulu’r gwersyll ddydd Sadwrn.

Dywedodd llefarydd ar ran y gwersyll ei fod yn “ddamwain trasig” a’u bod nhw’n cydymdeimlo â’r teulu.