Clawr y llyfr
Mae Aelod Seneddol wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cartref, Theresa May, er mwyn cwyno am adolygiad llyfr yn y Daily Mail sy’n ymosod ar yr iaith Gymraeg.

Yn ei adolygiad o’r llyfr Bred of Heaven, sy’n ymddangos dan y teitl ‘Boyo boy – being a Taffy is tough!’ y Daily Mail ddydd Gwener, roedd Roger Lewis yn cyfeirio at yr iaith Gymraeg fel “iaith mwnci”.

Roedd hefyd yn dweud fod Gorsedd y Beirdd “yn ymdebygu i’r Klu Klux Klan mewn wellingtons gwyn”.

Dywedodd Jonathan Edwards, Aelod Seneddol Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, na ddylai’r adolygiad fod wedi ei gyhoeddi, a’i fod yn ymdebygu i iaith “ffasgwyr”.

Ychwanegodd ei fod wedi cyfeirio’r mater at Gomisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu.

‘Salwch meddwl’

Mewn llythyr at Ysgrifennydd Cymru, Theresa May, dywedodd Jonathan Edwards fod yr erthygl yn “dweud pethau ofnadwy am bobol Cymru”.

“Mae’n erthygl yn awgrymu fod cenedlaetholdeb Cymreig yn ryw fath o salwch meddwl. A bod y wlad wedi ei droi i mewn i ‘wlad estron’ gan gyfreithiau sy’n rhoi hawliau i siaradwyr Cymraeg.

“Mae’n awgrymu mai’r unig ffordd i sicrhau cynnydd cymdeithasol ac economaidd yw symud i Loegr, ac yn disgrifio ein hiaith fel ‘iaith mwnci marwaidd’.

“Mae’r erthygl yn ymdebygu i’r math o iaith sy’n cael ei gysylltu â ffasgwyr.”

Dywedodd ei fod yn bwysig yn dilyn digwyddiadau’r wythnosau diwethaf fod Llywodraeth San Steffan yn gwneud popeth o fewn eu gallu i herio elfennau “anghyfrifol sy’n ceisio tanseilio cydlyniad cymdeithasol”.

“Yn dilyn sylwadau’r Prif Weinidog wrth alw’r Senedd yn ôl yr wythnos diwethaf rydw i’n disgwyl y bydd y mater yma yn cael ei ystyried yn un o bwys.

“Mae’n cael ei ddweud yn aml mai casáu’r Cymry yw’r unig hiliaeth dderbyniol sydd ar ôl. Mae erthyglau fel hyn yn hyrwyddo’r gred honno.

“Fe fyddwn i’n ddiolchgar iawn pe baech chi’n gallu fy nghynghori i ynglŷn â sut y byddwch chi’n gweithredu er mwyn dileu’r salwch yma o’n cymdeithas ni.”

Yr awdur yn ‘gandryll’

Cyhoeddodd Jasper Rees y llyfr Bred of Heaven ddechrau Awst. Mae’n llyfr taith ysgafn am ddyn yn ymroi i fod yn Gymro, trwy ddysgu’r iaith, ymuno â chôr a chystadlu ar gyfer Dysgwr y Flwyddyn yn yr Eisteddfod.

Dywedodd ei fod yn “gandryll” fod y llyfr wedi ei ddefnyddio gan Roger Lewis er mwyn creu “dadl ddibwrpas”.

“Mae pobol fel Roger Lewis yn chwerthinllyd a dydyn nhw ddim yn haeddu sylw.”