Bu’n rhaid achub dau oedolyn a dau blentyn ar ôl i’w cwch fynd ar dân oddi ar arfordir Pen Llŷn.

Roedd injan y cwch wedi mynd ar dân o arfordir Nefyn, ac un o’u rhwyfau wedi eu colli.

Anfonwyd bad achub o Borth Dinllaen ar ôl i aelod o’r cyhoedd weld y tân o’r lan a galw am gymorth am 6pm ddoe.

Aethpwyd a’r pedwar a’u cwch yn ôl i Borth Dinllaen. Roedden nhw’n gwisgo siacedi achub ond doedd ganddyn nhw ddim radio, meddai’r bad achub.