Neil Jones
Mae’r heddlu yn chwilio am ddyn ddifrifol wael sydd wedi mynd ar goll.

Mae Neil Jones, 37 oed, wedi bod ar goll ers iddo gerdded allan o’r ysbyty dros y penwythnos.

Roedd wedi ei asesu gan ddoctoriaid ar ôl cael ei daro gan fws yn gynharach y diwrnod hwnnw.

Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod nhw’n pryderu am iechyd Neil Jones ac yn annog aelodau o’r cyhoedd i gadw golwg amdano.

“Rydyn ni’n pryderu yn fawr ynglŷn â Neil. Roedd mewn gwrthdrawiad ddydd Sadwrn ac mae’n bosib ei fod yn dioddef o anafiadau mewnol sydd angen triniaeth brys,” meddai’r Prif Archwilydd, Belinda Davies.

“Hoffwn ni annog Neil – os yw’n gweld neu’n clywed y cais yma – i gysylltu â ni neu ei deulu, sy’n pryderu yn fawr, er mwyn cadarnhau ei fod yn saff.”

Diflannodd Neil Jones, sy’n dod o Bont-y-clun, o Heddlu Brenhinol Morgannwg ger Llantrisant tua 10.15am ddydd Sadwrn.

Roedd yn gwisgo crys-t glas, trowsus byr llwydfelyn a sbectols ar y pryd. Mae’n ddyn gwyn, 6 troedfedd 1 modfedd, tenau, â phen wedi ei eillio.

“Rydyn ni’n gwybod fod Neil yn dioddef o anaf difrifol,” meddai’r heddlu.

“Mae yna bryder am ei gyflwr meddyliol a’i fwriad.”

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio Heddlu De Cymru ar 01656 655555.