Heddlu Llundain
Gwasanaethau cymunedol yr heddlu fydd yn dioddef fwyaf o ganlyniad i doriadau Llywodraeth San Steffan, yn ôl astudiaeth newydd.

Mae’r adroddiad gan Sefydliad Prifysgol Caerdydd ar Wyddorau’r Heddlu yn dangos y bydd y nawdd sydd ar gael ar gyfer gwasanaethau cymunedol yr heddlu yn disgyn 14%, neu £1.36 biliwn, dros y pedair blynedd nesaf.

Dywedodd awdur yr adroddiad, Dr Timothy Brain, cyn Brif Gwnstabl Swydd Gaerloyw, fod yr honiad na fyddai toriadau’r heddlu yn effeithio ar y rheng flaen yn anghywir.

Ychwanegodd ei fod yn pryderu a fyddai’r heddlu yn gallu mynd i’r afael â phroblemau mawr fel y terfysg yn Lloegr yr wythnos diwethaf yn y dyfodol.

Dywedodd ei fod yn rhagweld y gallai 16,000 o swyddi ar y rheng flaen gael eu colli – sef tua’r un faint o heddweision a gafodd eu galw i mewn i Lundain yr wythnos diwethaf.

“Mae gweinidogion yn disgwyl i’r toriadau effeithio’n bennaf ar y ‘swyddfa gefn’, ond mewn gwirionedd fe fydd gwasanaethau rheng flaen yn cael eu heffeithio,” meddai.

“Bydd 16,000 o heddweision yn mynd – yr un nifer ag oedd ar strydoedd Llundain yr wythnos diwethaf.

“Mae’r twf yn nifer yr heddweision ers 2004/2005 wedi caniatáu iddyn nhw wasanaethau cymunedau unigol.

“Mae’n debygol felly mai gwasanaethau heddlu cymunedol fydd yn cael ei effeithio fwyaf gan y toriadau. Mae’r ysbryd o fewn yr heddlu yn debygol o ddioddef.

“Mae gweinidogion yn dweud y bydd modd i’r heddlu oroesi drwy ganolbwyntio eu hadnoddau – ond bydd rhaid cymryd yr adnoddau rheini o rywle arall.”

Ychwanegodd nad oedd yn cytuno â honiad y Swyddfa Gartref y byddai torri cyllid yr heddlu yn cynyddu effeithlonrwydd ac yn arwain at lai o waith papur i heddweision.

“Yr eironi ydi mai’r heddluoedd mwyaf effeithlon fydd yn cael eu taro caletaf gan y toriadau, am nad ydyn nhw’n gallu torri’n ôl i’r un graddau,” meddai.