Yr Wyddfa
Mae cerddwr wedi marw ar ôl cwympo ger pegwn yr Wyddfa.

Cafodd criw achub y Llu Awyr Brydeinig eu galw o Ynys Môn i Lwybr Watkin tua 1.20pm ddydd Sadwrn.

Roedd y dyn ar Lwybr Watkin tua hanner milltir o begwn 3,560 troedfedd y mynydd.

Dywedodd yr achubwyr fod y dyn yn anymwybodol ac yn derbyn triniaeth CPR pan gyrhaeddon nhw.

Cafodd y dyn 47 oed ei hedfan i Ysbyty Gwynedd ym Mangor. Fe fu farw yn fuan ar ôl cyrraedd.

Dyw’r heddlu heb gadarnhau ei enw nac o le yr oedd yn dod.

Dywedodd un o weithwyr Trên yr Wyddfa eu bod nhw wedi clywed fod y dyn wedi cael trawiad ar y galon.