Mae beiciwr modur wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad â cherbyd arall yn Sir Benfro.

Digwyddodd y gwrthdrawiad tua 6.30am bore ddoe ar yr A477 yn Mynegbost Nash.

Mae teulu’r beiciwr modur wedi cael gwybod a ni chafodd unrhyw un arall ei anafu.

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi galw ar unrhyw lygaid dystion i gysylltu â nhw ar 101.