Selwyn Griffith
Mae’r Archdderwydd T James Jones wedi talu teyrnged i’r Dirprwy Archdderwydd, Selwyn Griffith.

Fe fu farw Selwyn Griffith yn 83 oed heddiw, ychydig ddyddiau wedi diwedd yr Eisteddfod Genedlaethol.

Dywedodd T. James Jones y byddai yn cofio gŵr parod ei gymwynas, hwyliog, a dawnus.

Roedd y Prifardd a’r cyn-Archdderwydd yn ddyn i’w “edmygu,” ac wedi gosod esiampl i T. James Jonesei ddilyn wrth gymryd yr awennau, meddai.

“Roedd e’n Archdderwydd diymhongar iawn,” meddai T. James Jones, “ac yn gwneud yn siwr ei fod yn cadw’r sylw ar yr enillydd drwy’r amser yn seremoniau’r Eisteddfod.”

Roedd Selwyn Iolen yn Archdderwydd rhwng 2004 a 2008, ac fe gamodd i’r adwy unwaith eto pan yr oedd ei olynnydd, Dic Jones, yn anhwylus adeg Eisetddfod y Bala yn 2009.

“Byddai’n gwenud ei waith yn raenus ac yn llawn hiwmor, fel y byddai Selwyn o hyd,” meddai T. James Jones.

Roedd bellach yn Ddirprwy Archdderwydd i T. James Jones, er nad oedd wedi medru bod yn bresennol yn yr Eisteddfod eleni oherwydd ei fod yn sâl.

Dyn yr eisteddfodau lleol

Mae llawer wedi ei gofio heddiw am ei gefnogaeth mawr i eisteddfodau lleol led led Cymru, ac yn ôl T. James Jones, roedd yn grediniol fod “gwerth i eisteddfodau lleol wrth gynnal y Genedlaethol.”

Roedd yn feirniad eisteddfodol rheolaidd, ond un o’i gyfraniadau mwyaf â’r Eisteddfod yng Nghymru oedd ei gyfraniad helaeth at ddarnau llefaru i blant.

“Ysgrifennodd cannoedd o ddarnau adrodd i blant,” yn ôl T. James Jones, a chyhoeddi o leia’ wyth cyfrol o gerddi i blant.

Crefftwr gôl a gair

Roedd yn fardd diwyd, ac wedi ennill llu o gadeiriau a choronau am ei gerddi, gan gynnwys Coron yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst yn 1989, am ei bryddest i’r ‘Arwyr’.

Yn y gerdd honno, meddai T. James Jones, y mae darganfod peth o hanes difyr y mab i chwarelwr o Fethel.

“Mae’n sôn am ei fagwraeth ym Methel,” meddai T. James Jones, “ond mae pêl droed yn chwarae rhan fawr yn y bryddest honno am ei lencyndod.

“Do’n i ddim yn gwybod tan yn ddiweddar iawn, ond ro’dd Selwyn yn hoff iawn o bêl droed,” meddai.

“Golwr oedd e, yn chwarae i Gaernarfon. Ond fe gafodd brawf unwaith gyda Bolton Wanderers – roedd yn dipyn o grefftwr fel golwr, mae’n debyg.”

Yr atgof ola’

Fe fu T. James Jones a’i wraig Manon Rhys draw yn ymweld â Selwyn Iolen ddydd Sadwrn diwethaf – ar Sadwrn olaf Eisteddfod.

Dywedodd ei fod wedi clywed enw’r cyn-Archdderwydd yn cael ei grybwyll ar sawl achlysur ar y llwyfan ac ar y maes, gyda llawer yn cofio ato yn ei wendid.

“Cawson ni groeso mawr ar yr aelwyd ganddo,” meddai T. James Jones. “Roedd e yn ’i waeledd, ond ro’dd ’i ysbyrd yn rhyfeddol o hyd.”

Tra yno, cafodd y ddau gyfle i siarad, a chyfle i fwynhau’r olygfa hynnod o’r Wyddfa drwy ffenest ei gartref.

“Ond r’odd yr Wyddfa dan gwmwl y diwrnod ’ny,” meddai T. James Jones. “Do’n ni’n methu â gweld y copa.

“Ac rhyw deimlad felly oedd gyda fi am Selwyn y diwrnod ’ny hefyd – r’odd Selwyn ’i hunan dan gwmwl. Ond ro’dd haul ’i wên e’n dal i dorri trwodd.

“A dyna’r atgof diwetha’ sy’ gan Manon a fi ohono fe,” meddai T. James Jones.

“Mae’n cydymdeimlad ni’n fawr iawn â Meira, ei briod, a’i fab Euron.”