Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau i sicrhau bod pobl hŷn mewn ysbytai neu gartrefi gofal yn cael cyfathrebu yn Gymraeg os mai dyma eu dymuniad.

Dywedodd y llywodraeth fod tystiolaeth bod diffyg darpariaeth trwy gyfrwng y Gymraeg mewn lleoliadau gofal yn gallu amharu ar ansawdd y gofal a roddir i siaradwyr Cymraeg, yn enwedig pobl hŷn.

Mae adroddiad Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, “Gofal gydag Urddas?”, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth eleni, yn galw ar staff mewn ysbytai i gofio y dylid trin y defnydd o’r Gymraeg “fel mater o hawl ac nid fel rhywbeth i’w gynnig ar fympwy.”

Cafodd Pecyn Cymorth ar gyfer y Gymraeg ei gynhyrchu fel rhan o raglen “Gofal gydag Urddas” Llywodraeth Cymru, ac wedi’i gyhoeddi ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam. Mae wedi’i anelu’n bennaf at ofalwyr a rheolwyr, addysgwyr a hyfforddwyr.

Mae’n nodi nifer o gamau y dylai gweithwyr ym maes gofal eu cymryd i sicrhau bod pobl hŷn yn cael cyfathrebu yn eu dewis iaith.

Mae’r camau hynny’n cynnwys defnyddio dulliau o gynllunio gofal sy’n ystyried lle’r Gymraeg yn hanes bywyd a ffordd o fyw pob unigolyn, a hefyd ddarparu gweithgareddau cymdeithasol sy’n gydnaws ag anghenion ieithyddol siaradwyr Cymraeg.

Hefyd awgrymir camau ymarferol i’w cymryd, fel gosod arwyddion dwyieithog, a sicrhau bod pobl yn cael gwrando ar raglenni Cymraeg ar y radio ac ar y teledu, a bod deunydd darllen Cymraeg ar gael iddynt.

“Er mwyn gallu gofalu am rywun yn iawn, mae’n bwysig dod i adnabod y person hwnnw fel unigolyn, gan sicrhau bod ei lais yn cael ei glywed a bod ei ddymuniadau’n cael eu parchu,” meddai’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Gwenda Thomas.

“Mae darparu gwasanaeth dwyieithog i bobl hŷn yn rhoi cyfle iddyn nhw ddweud beth sydd orau ganddynt o ran cael gofal.

“Mae hefyd yn helpu i sicrhau eu bod yn cael eu trin â’r urddas y maen nhw’n ei haeddu.

“Yn y pen draw, mae galluogi rhywun i gyfathrebu yn ei iaith gyntaf yn cyfrannu at ei ymdeimlad o iechyd da, lles ac annibyniaeth, ac mae’n rhan bwysig o’n rhaglen Gofal gydag Urddas.”