Cyfyngu’r wisg wen i brifeirdd a phrif lenorion

 


Dim ond enillwyr prif wobrau’r Eisteddfod fydd yn cael gwisgo’r wisg wen yn yr Orsedd yn y dyfodol.

Yn dilyn pleidlais yr aelodau yn y cyfarfod blynyddol y bore yma ar y maes, penderfynodd yr Orsedd gyfyngu ar y defnydd o’r wisg sy’n cael ei gweld fel yr un uchaf ei statws.

Dywed yr Archdderwydd ei fod yn croesawu’r penderfyniad heddiw.

“I ni heddiw wedi sefydlu yr egwyddor o gydraddoldeb rhwng aelodau’r Orsedd. Mae na fanylion i’w gweithio eto ond mae’r cyfarfod cyffredinol wedi rhoi hawl i’r bwrdd i weithredu yr egwyddor yma,” meddai T James Jones.

Bydd y newidiadau yn cael eu gweithredu ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol haf nesaf.

Iolo Morganwg

“Mae’r Eisteddfod blwyddyn nesaf yn mynd i rhoi sylw i’n sylfaenydd ni fel Gorsedd sef Iolo Morganwg,” meddai’r Archdderwydd. “Ym Mro Morgannwg ma’r Eisteddfod, ac un o’r egwyddorion yr oedd Iolo yn ei gyfri yn bwysig iawn oedd cydraddoldeb, bod holl aelodau’r Orsedd yn gydradd. Does dim neb yn bwysicach na’i gilydd.”

Er bod y lliwiau gwyrdd a glas yn parhau mae’r Archdderwydd yn dweud bod posibilrwydd y bydd lliw newydd yn cael ei greu yn y dyfodol ar gyfer yr Orsedd. Dywed hefyd fod hi yn anodd weithiau gwybod pa liw y dylai aelod o’r orsedd wisgo.

“Ma’ rai pobl yn cael eu hanrhydeddu ym maes chwaraeon. Wel dwi ddim yn siwr ymhle y bydd rheini.  Ambell waith os na fyddwn i yn glir pa gategori allwn i rhoi y dewis i’r person. Beth sydd ore dach chi – mynd i’r glas neu mynd i’r gwyrdd? Y pwysig yw eu bod nhw ar yr un lefel.”

 Penderfyniad arall gan yr aelodau oedd mai dim ond un unigolyn y bydd aelod o’r Orsedd yn medru cynnig i gael eu hurddo bob blwyddyn.

Ar ddiwedd y cyfarfod rhoddwyd anrheg a diolchiadau i Feistres y Gwisgoedd, Siân Aman sydd yn ymddeol ar ôl yr Eisteddfod eleni.

Erthyglau perthnasol

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

1988-2018 Cylchgrawn Golwg yn 30 oed