Aled Roberts
Mae ymgyrchwyr dros addysg Gymraeg yn ardal Wrecsam wedi galw am weledigaeth newydd wrth lunio strategaeth addysg cyfrwng Cymraeg i Gymru.

“Mae Llywodraeth y Cynulliad yn gallu bod yn gaeth i ystadegau,” meddai’r Aelod Cynulliad, Aled Roberts.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed, sef fod 25% o blant Cymru yn siarad Cymraeg erbyn 2020.

Wrth gytuno â’r amcan i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg, mae’r Aelod Cynulliad sy’n lefarydd addysg y Democratiaid Rhyddfrydol yn dweud fod yn strategaeth ei hun yn ddiffygiol.

Dyw Llywodraeth Cymru heb gynnal trafodaeth digon manwl â’r awdurdodau addysg eu hunain ynglŷn â’u rhan nhw wrth wireddu’r strategaeth, meddai.

Mae angen strategaeth sy’n gofyn i awdurdodau lleol “ddweud sut y maen nhw’n bwriadu  cyfrannu at y 25%,” meddai Aled Roberts wrth Golwg 360.

Y gobaith yw y bydd strategaeth felly yn gorfodi i awdurdodau lleol ystyried o ddifrif sut y maen nhw am gynnyddu eu darpariaeth addysg Gymraeg, meddai.

Yn ôl Huw Foster Evans, prifathro unig ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg y sir – Ysgol Morgan Llwyd – mae angen strategaeth addysg fydd yn sicrhau bod y galw lleol am addysg cyfrwng Cymraeg yn cael ei ddiwallu.

Dywedodd fod arolwg diweddar o rieni darpar-ddisgyblion yn Wrecsam wedi datgelu y byddai 40% ohonyn nhw yn dewis asddysg Gymraeg i’w plant, petai’r addysg hwnnw o fewn pellter rhesymol.

“Mae hynny dros dair gwaith y cyfran o ddisgyblion yr ardal sy’n cael eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg ar hyn o bryd,” meddai.

“Rhaid i’r strategaeth gynllunio ddiwallu’r anghenion hynny.”

Angen cefnogaeth

Ond yn ôl un rhiant lleol, mae’r ffaith fod Wrecsam yn ystyried ei hun yn ardal Seisnig iawn yn dal plant yn ôl llawn cymaint â’r strategaeth gynllunio addysg.

“Os nad ydyn nhw’n nabod rhywun, fyddan nhw’n troi i’r Saesneg yn syth,” meddai Andrew Parry wrth Golwg 360, sy’n riant ei hun ac yn aelod o’r grŵp Rhieni Dros Addysg Gymraeg.

“Mae 29,000 o bobol yn Wrcsam yn siarad Cymraeg – mae hynny’n fwy na phoblogaeth Bangor ac Aberystwyth gyda’i gilydd.”

Ond y broblem yn ôl Andrew Parry yw nad yw’r Cymry yn sylweddoli faint o siaradwyr Cymraeg sydd yn yr ardal.

“Does neb yn meddwl dechrau sgwrs yn y Gymraeg,” meddai.

“Mae angen cymdeithas Gymraeg gref tu ôl i addysg gyfrwng Cymraeg, neu fe fydd yr addysg y mae plant yn ei gael tu fewn i furiau’r ysgol yn aros o fewn muriau’r ysgol.”