Y Cynulliad
Mae Comisiwn y Cynulliad Cenedlaethol yn ymgynghori am ddeddf newydd a fyddai’n caniatáu i’r corff barhau i wahaniaethu rhwng y Gymraeg a’r Saesneg wrth cyhoeddi’r Cofnod.

Fe gyhoeddodd y Comisiwn heddiw eu bod nhw’n dechrau’r ymgynghoriad swyddogol a fydd yn parhau trwy’r haf.

Er bod y mesur newydd – neu’r Bil – yn dweud bod y ddwy iaith yn gyfartal yng ngwaith y Cynulliad, mae hefyd yn gwneud yn glir nad oes raid “o angenrheidrwydd” gyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg ac o’r Saesneg i’r Gymraeg ym mhob sefyllfa.

Fe fyddai hynny’n caniatáu i’r Cynulliad barhau i gyfieithu areithiau Cymraeg ar gyfer y Cofnod, heb wneud hynny i areithiau Saesneg.

Dadlau

Roedd y penderfyniad gwreiddiol i wneud hynny wedi achosi dadlau mawr pan dorrodd Golwg 360 y stori yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2009.

Ers hynny, mae mudiadau fel Cymdeithas yr Iaith wedi parhau i frwydro am Gofnod cwbl ddwyieithog ac mae ACau o bob plaid wedi bod yn feirniadol o’r polisi.

Bydd y Bil newydd – y cynta’ i’w gyflwyno gan y Comisiwn ers y refferendwm deddfwriaeth – yn gosod trefn statudol ar ddefnydd y Cynulliad o’r ddwy iaith.

‘Trefniadau cadarn,” meddai Rhodri Glyn

Ac mae Rhodri Glyn Thomas, yr AC sydd â chyfrifoldeb tros y Gymraeg ar y Comisiwn, wedi cefnogi’r Bil.

“Mae’r ddeddfwriaeth arfaethedig yn cynnig trefniadau cadarn ar gyfer rheoli gwasanaethau dwyieithog y Cynulliad,” meddai.

“Mae’r cynllun [iaith] drafft yn cadarnhau ein hymrwymiad i ddatblygu gwasanaethau ac i arloesi yn y maes hwn, er mwyn sicrhau bod gwybodaeth y Cynulliad Cenedlaethol ar gael i bawb.”