Mae ffigurau a gyhoeddwyd heddiw yn dangos fod bron i hanner prifathrawon Cymru yn gallu siarad Cymraeg.

Yn ôl yr wybodaeth diweddaraf gan Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru mae o leiaf 42% o brifathrawon Cymru yn siarad Cymraeg – dwbl nifer y siaradwyr Cymraeg yn y boblogaeth yn gyffredinol yn ôl y cyfrifiad diwethaf.

Mae’r ffigurau hefyd yn dangos tueddiad “calonogol” ymysg athrawon yn gyffredinol, medden nhw.

Mae 32% o’r 38,770 o athrawon cofrestredig yng Nghymru’n dweud eu bod yn gallu siarad Cymraeg.

Dywedodd Gary Brace, prif weithredwr y Cyngor Addysgu, eu bod nhw’n casglu llawer mwy o wybodaeth bob blwyddyn ynghylch faint o athrawon a phrifathrawon sy’n siarad Cymraeg.

“Er bod yna rai bylchau – rhai unigolion heb ddweud a ydyn nhw’n siarad Cymraeg ai peidio – mae gennym ni ddarlun clir iawn o broffil ieithyddol y proffesiwn,” meddai.

“Mae’r wybodaeth ynghylch prifathrawon yn awgrymu y gallai ysgolion roi arweiniad cryf iawn yn natblygiad yr iaith Gymraeg, sy’n golygu fod dylanwad yr iaith i’w deimlo erbyn hyn y tu hwnt i ysgolion cyfwng Cymraeg a dwyieithog.”

Mae Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yn cyhoeddi ystadegau o’i Gofrestr yn rheolaidd ar y proffesiwn dysgu, gan gynnwys faint o brifathrawon sy’n gallu siarad Cymraeg.

Mae’r Cyngor yn rheoleiddio’r proffesiwn yng Nghymru, yn hyrwyddo safonau uchel ymhlith athrawon ac yn cynghori Llywodraeth Cymru ar faterion sy’n effeithio ar addysgu.