Suzy Davies
Dyw nifer y disgyblion ysgol gynradd sy’n gallu siarad Cymraeg yn rhugl heb newid ers 1986.

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi tynnu sylw at yr ystadegau gan ddweud ei fod yn brawf fod angen gwneud rhagor er mwyn sicrhau fod disgyblion yn gallu siarad yr iaith.

Yn 1986 roedd 14,720, sef 7.2, y cant o ddisgyblion ysgolion cynradd Cymru yn siarad Cymraeg yn rhugl adref, o’i gymharu â  14,684, sef 7.6 y cant, yn 2009.

Yn 1986 roedd 11,800, sef 5.8, y cant o ddisgyblion ysgolion cynradd Cymru yn siarad Cymraeg yn rhugl ond ddim yn ei siarad gartref, o’i gymharu â  10,320, sef 5.4 y cant, yn 2009.

“Mae’n amlwg yn siomedig gweld nad ydi gallu plant ysgol i siarad yr iaith wedi newid o gwbl ers 23 mlynedd,” meddai Suzy Davies, llefarydd yr wrthblaid ar yr Iaith Gymraeg.

“Mae yna newidiadau wedi bod yn ystod y cyfnod hwnnw – yn enwedig yn y 90au – ond mae’r ffigyrau diweddaraf yn agoriad llygad.

“Plant ysgol gynradd heddiw yw dyfodol yr iaith. Os yw’r iaith yn mynd i ffynnu mae angen i nifer y siaradwyr rhugl gynyddu, nid syrthio yn ôl i lefelau’r 80au.

“Rydw i’n croesawu’r ffaith fod mwy o blant ifanc yn dysgu’r iaith – mae’n newyddion gwych ac rydw i’n gobeithio y bydd y ffigwr yn tyfu eto.

“Ond mae yna wendid yn y system wrth ddysgu plant i siarad yr iaith yn rhugl.”

‘Bywyd bob dydd’

Dywedodd Suzy Davies ei fod yn bwysig sylweddoli’r effaith y mae dylanwadau byd-eang – gan gynnwys y rhyngrwyd – yn ei gael ar bobol ifanc.

“Ond dyw hynny ar ei ben ei hun ddim yn esbonio pam nad yw’r ffigyrau yma wedi codi,” meddai.

“Yn ogystal â gwneud mwy i gynnwys y Gymraeg ym myd addysg mae angen ymdrech fawr i sicrhau bod yr iaith yn rhan o fywyd dydd i ddydd mwy o bobol.

“Mae angen normaleiddio dwyieithrwydd fel bod pobol yn fwy parod i ddefnyddio eu Cymraeg, beth bynnag eu gallu.

“Rydw i eisiau i blant ddatblygu eu gallu fel bod defnyddio’r iaith yn dod yn naturiol iddyn nhw – yn eu bywydau proffesiynol a phersonol.”