Andrew White
Dydd Iau fe fydd Stonewall Cymru ar y cyd â’r comisiwn cydraddoldeb a hawliau dynol a Bwrdd yr Iaith yn lansio ‘terminoleg cydraddoldeb’ i gyfieithwyr proffesiynol.

“R’yn ni wedi bod yn gweithio gyda’r comisiwn cydraddoldeb a hawliau dynol a Bwrdd yr Iaith yn ogystal a chyrff a mudiadau gwirfoddol eraill er mwyn sicrhau  bod y terminoleg sy’n mynd ar gronfeydd data a chyfrifiaduron ar gyfer cyfieithwyr yn derminoleg ac iaith addas,” meddai Andrew White, Cyfarwyddwr Stonewall Cymru.

“Yn draddodiadol, dyw pobl ddim yn sylweddoli gwerth a gwerthoedd geiriau.

“Pan nes i ddod mas tua 20 mlynedd yn ôl – es i i’r geiriadur i chwilio am eiriau i ddisgrifio fi – a sodomeiddiwr oedd y gair a hefyd mae lot o bobl yn defnyddio’r gair gwrywgydiaeth. Wel, dw i ddim yn cydio mewn dynion – byddai’r gŵr bydd yn maddau i mi.

“R’yn ni wedi bod yn gweithio mewn ffordd bositif i greu ieithwedd newydd, safonol ar ran cyfeiriadaeth rywiol,” meddai.

‘Dweud dim’

“Yn y bôn – pan nad oes iaith addas i drafod rhywbeth – mae pobl dda yn dewis peidio dweud dim byd a pheidio trafod y peth. Pan mae hynny’n digwydd mae pobl hoyw yn mynd yn anweladwy, yn ddibwys, yn ddiystyr.

“Yn sicr, dw i ’di cael profiad personol. Profiad lle mae rhywun oedd ddim yn homoffobig o gwbl yn dewis peidio son am fy mhartner neu fy mhriodas oherwydd nad oedd ganddyn nhw’r geiriau neu unrhyw fframwaith i drafod y peth a rhoi cyd-destun i’r peth.

“Fel oeddwn i’n dweud, pobl dda sy’n neud e achos maen nhw ofn dweud y peth anghywir felly’n dweud dim.”

Mae’r cyfarwyddwr yn gobeithio y bydd yn cynorthwyo cyfieithwyr proffesiynol sy’n mynd at y cronfeydd data hyn “ac yn parhau weithiau i ddefnyddio terminoleg sydd erbyn hyn yn hen ffasiwn”.