Susan Elen Jones
Mae brodor o Wlad y Basg wedi dweud wrth Golwg 360 fod sylweddoli nad oedd yna wasanaeth bancio ar-lein yn y Gymraeg yn “syndod”.

“Mae bancio ar lein mewn Basgeg, Catalaneg neu Saesneg yn gwbl arferol i ni,” meddai Begotxu Olaizola o Zarautz yng Ngwlad y Basg.

“Nes heddiw doeddwn i heb sylweddoli fod hynny’n broblem yma yng Nghymru.

“Bore ma fe fues i ar wefan y banc a chael dewis o sawl iaith. Dydyn nhw ddim i weld o’r farn fod hynny’n costio llawer o arian. Mae pob banc yng Ngwlad y Basg yn cynnig y gwasanaeth yma heb feddwl dwywaith.

“Fel arfer mae eich technoleg chi’n well felly roeddwn i’n synnu o glywed ein bod ni ar y blaen.

“Dim ond unwaith mae angen cyfieithu popeth, felly mae’n dipyn o sioc, o ystyried ei fod bellach yn 2011, nad yw’r gwasanaeth ar gael.”

Ymgyrch

Roedd tyrfa ar faes yr Eisteddfod wrth i Gymdeithas yr Iaith lansio ymgyrch ar y cyd gydag AS lleol yn galw am wasanaethau bancio Cymraeg ar-lein.

Mae aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi bod yn lobio HSBC i gychwyn gwasanaeth ar-lein, ond mae’r banc wedi gwrthod newid ei bolisi, yn ôl y Gymdeithas.

Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni nad “oes unrhyw gynlluniau i gynnig bancio personol (ar-lein) drwy gyfrwng y Gymraeg ar hyn o bryd, er bod eich sylwadau wedi’u nodi”.

Wrth lansio’r ymgyrch heddiw dywedodd Susan Elan Jones, Aelod Seneddol Llafur dros Dde Clwyd, ei fod yn “anrhydedd mawr cael lansio’r ymgyrch positif dros ben yma”.

“Cefais neges gan bapur newydd yn gofyn a ydw i’n fodlon i siarad ar blatfform Cymdeithas yr Iaith fel hyn.

“Nid yn unig ydw i’n fodlon, ond rydw i’n ddiolchgar iawn fod yna ymgyrch fel hyn yn digwydd dros Gymru gyfan.

“Mae’n andros o bwysig ein bod ni’n cael yr hawl i ddefnyddio’r iaith Gymraeg ym mhob agwedd o’n bywydau ni.

“Mae hyn yn bwysig, nid yn unig i bobl sy’n medru siarad Cymraeg a dysgwyr ond i’r holl gymuned ac i Gymru gyfan.”