Susan Elen Jones
Mae angen i’r Blaid Lafur gofleidio achos yr iaith Gymraeg yn union fel y mae wedi cofleidio achosion radical eraill, meddai AS.

“Rhaid i ni radicaleiddio’r ffordd yr yden ni’n edrych ar yr iaith,” yn ôl Susan Elan Jones, Aelod Seneddol De Clwyd ar ôl cyfarfod am ddyfodol y Gymraeg ar faes yr Eisteddfod.

“Rhaid i ni ddangos yr un math o agwedd at yr iaith ag at ffeministiaeth neu gyfiawnder cymdeithasol,” meddai, gan gydnabod bod Llafur wedi methu â gwneud hynny yn y gorffennol.

Angen trafod

Fe gafodd ei sylwadau eu hadleisio gan y Gweinidog Addysg ac Iaith, Leighton Andrews, a hynny, meddai yntau, wedi arwain at ildio’r maes i Blaid Cymru.

Roedd yn dadlau bod cefnogaeth eang ymhlith siaradwyr Cymraeg i Lafur yn y blynyddoedd cynnar wedi cael ei golli mewn rhai ardaloedd.

“Rhaid i ni gydnabod os yden ni wedi gwneud camgymeriadau,” meddai Susan Elan Jones. “Os nac yden ni’n trafod athroniaeth y peth, fyddwn ni jyst yn gwneud pethau arwynebol.”