Canol tref Wrecsam
Mae Cyngor Wrecsam yn gobeithio gallu bwrw ymlaen gydag ysgol gynradd Gymraeg newydd yn fuan.

Yn ôl Arweinydd y Cyngor, mae’r bobol sydd wedi bod yn gwrthwynebu safle’r ysgol newydd ym mhentre’ Gwersyllt bellach yn newid eu meddyliau.

“Dw i’n credu bod pethau’n newid,” meddai’r Cynghorydd Ron Davies wrth Golwg 360. “Ro’n i yn un o’r chwe chyfarfod cyhoeddus sydd wedi bod a dim ond un neu ddau o bobol oedd yn parhau i wrthwynebu’r safle.”

Fe ddywedodd bod galw am addysg Gymraeg yn cynyddu’n gyflym a bod mwy na dwywaith gormod o blant eisiau mynd  i un ysgol gynradd Gymraeg bresennol.

Er bod rhai’n anhapus am fod y safle arfaethedig y tu allan i ffiniau datblygu pentre’ Gwersyllt, roedd caniatâd cynllunio sylfaenol eisoes wedi’i roi, meddai, ac roedd y Llywodraeth yn parhau i addo cymorth o 90% at y cynllun.

Yr Eisteddfod – ‘wedi gwella’

Ac yntau’n ddi-Gymraeg ond yn wreiddiol o Wrecsam, roedd yn gobeithio y byddai’r Eisteddfod yn rhoi hwb pellach i’r iaith yn yr ardal.

Roedd yr Eisteddfod wedi “gwella”, meddai, a rhai fel ef yn teimlo’n hapusach i fynd iddi. “Dw i’n cael fy nerbyn ac mae pobol yn fodlon siarad Saesneg efo fi. O ganlyniad mae rhywun yn teimlo bod angen gwneud mwy.”

“Mae yna lawer o bobol fel fi yn Wrecsam, efo cefndir Cymraeg ac meddai. “