Tapas, drama a dawnsio – dyna beth sy’n cael ei gynnig i ymwelwyr yr Eisteddfod Genedlaethol yr wythnos hon mewn cynhyrchiad sy’n addo llusgo’r gynulleidfa o’u cadeiriau.

Yr actor Phyl Harries sydd wedi ymgymryd â’r her i ddiddanu cynulleidfa â’i dango a’i cha cha mewn cynhyrchiad newydd ar y cyd rhwng Theatr na-Nog a Theatr Mwldan, o’r enw ‘Salsa!’

Mae’r actor wedi gorfod dysgu sut i symud fel Sbaenwr ar gyfer rhan ‘Wayne’, sy’n dechrau gwersi dawnsio er mwyn plesio’i wraig, ac er mwyn colli pwysau.

Yn ôl Phyl Harries, mae’r cynhyrchiad yn addo bod yn noson llawn hwyl a dyfalu i’r gynulleidfa.

“Mae’n stori wych am gwpwl canol-oed, Wayne a Rhian, sydd eisiau dechrau teulu, ac sy’n ymuno â dosbarth salsa er mwyn colli pwysau,” ebe Phyl Harries.

“Y broblem yw bod Rhian yn troi ei phigwrn ac yn methu parhau, tra bod Wayne, sy’n ceisio plesio’i wraig yn dawel bach, yn parhau â’r dosbarthiadau er mwyn dangos ei symudiadau iddi – yn ogystal â’r ffaith ei fod wedi colli bach o bwysau.

“Ond mae’r dosbarthiadau yn cael eu cynnal gan yr athrawes Sbaenaidd hynod brydferth, Adela Vega. A thra bod Wayne yn cael ei annog gan Adela, mae e’n dechrau mwynhau’r sylw ychydig yn ormod.”

Yn ôl Phyl Harries, bydd y gynulleidfa ar flaen bysedd eu traed wrth i Wayne ddewis rhwng Rhian ac Adela.

Sioe i godi cynulleidfa

“Mae’n ddrama dda, ac mae’n llawn hwyl,” meddai Phyl Harries, “gyda digonedd o gymeriadau diddorol a thipyn o ddawnsio – ac nid dim ond y salsa – ond y cha cha a’r tango hefyd. Mae’n ddrama gorfforol iawn, credwch fi.”

Mae’r cynhyrchiad hefyd yn rhoi cyfle i’r gynulleidfa godi o’u cadeiriau a chymryd rhan.

“R’yn ni’n rhoi cyfle i’r gynulleidfa chwarae rhan a dod i fyny i’r llwyfan aton ni ar ddiwedd y perfformiad hefyd. Mae’n berfformiad egniol iawn, ac yn sioe anhygoel.”

Bydd hefyd cyfle i’r gynulleidfa gael blas go iawn ar y noson, gyda tapas a paella yn cael ei ddarparu cyn y perfformiad trwy fwyty La Tasca.

Bydd Salsa! yn cael ei pherfformio yn Theatr y Stiwt, Rhos, rhwng Dydd Mawrth, 2 Awst, a Dydd Gwener, 5 Awst. Am docynnau, ewch i stiwt.ticketsolve.com, cysylltu â’r swyddfa docynnau ar 01978841300, neu fynd istondyn Stiwt yn y Caffi Drama ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol.