Gwilym Owen
Mae’r Gymraeg yn mynd yn iaith ar gyfer y dosbarth canol yn unig, yn ôl y newyddiadurwr Gwilym Owen – un o’i negeseuon wrth ymddeol o gyflwyno rhaglen radio bob wythnos.

“Yr unig bobol sydd yn ymladd drosti ac yn meddwl ei bod hi werth ei chadw ydi’r bobol sydd yn byw arni ac yn byw yn fras iawn, iawn arni hi,” meddai.

Ond mae ei bryder mwya’ am ddyfodol newyddiduraeth Gymraeg, heb weld fawr o ddatblygiad o ran print ac yn feirniadol o Newyddion teledu’r BBC.

“Mae pob peth yn ffitio i’w le, rhyw funud a chwarter, munud a hanner a rhyw ystrydebol, arwynebol dw i’n ffeindio’r driniaeth.”

Ac yntau wedi bod yn bennaeth ar raglenni newyddion HTV, cyn mynd i swyddi golygyddol yn y BBC, mae’n credu mai camgymeriad oedd rhoi’r holl newyddion teledu Cymraeg yn nwylo’r Gorfforaeth, pan gafodd S4C ei sefydlu yn 1982.

“Dwi’n meddwl ei fod o wedi bod yn gam â datblygiad newyddion Cymraeg. Mae o wedi cael dylanwad ar newyddiaduraeth print a popeth arall trwy osod y safon. Ond safon BBC Lludeinig ydi hwnnw. Yn fy marn i, mae o wedi dal datblygiad newyddiaduraeth Gymraeg oedd yn ymhél â bywyd Cymru yn ôl.”

Darllenwch weddill y cyfweliad yng nghylchgrawn Golwg, 28 Gorffennaf