Rhodri Glyn Thomas
Mae Rhodri Glyn Thomas wedi dweud na fyddai’r Cynulliad yn dibynnu ar Google Translate yn unig wrth gyfieithu’r Cofnod i’r Gymraeg.

Bydd golygyddion yn defnyddio’r cyfieithiad ”bras” fel sail i gyfieithiad mwy manwl, meddai.

Daw hyn wedi i un arbenigwr ar dechnoleg cyfieithu wrth Golwg 360 nad ddylai’r Cynulliad “ar unrhyw gyfri” ddibynnu ar Google Translate i gyfieithu’r cofnod.

Ddoe datgelodd Golwg 360 fod Comisiwn y Cynulliad yn bwriadu defnyddio’r teclyn er mwyn arbed arian wrth gyfieithu’r Cofnod o’r Gymraeg i’r Saesneg.

Mae’r Comisiwn yn credu y byddai defnyddio Google Tranlsate yn hanner cost darparu Cofnod Cymraeg, i tua £110,000.

Google

“Mae Comisiwn y Cynulliad wedi cytuno mewn egwyddor ei fod am ddarparu’r cofnod yn Gymraeg a Saesneg,” meddai Rhodri Glyn Thomos wrth Golwg360 heddiw.

“Rydyn ni mewn trafodaethau gyda Google am beth yw’r sefyllfa o ran defnyddio’r gwasanaeth cyfieithu bras yn yr hir dymor.

“Nid cyfieithiad Google fydd safon gorffenedig y Cofnod,” meddai cyn egluro y byddai’r comisiwn yn trafod “cyflogi dau uwch-olygydd i olygu a chywiro’r bras gyfieithiad”.

“Fydden ni byth yn barod i gymeradwyo cofnod o safon israddol yn y Gymraeg. Byddai rhaid i’r ddwy iaith fod o’r un safon – fydden ni ddim yn ei gymeradwyo fel arall.”

Roedd  Rhodri Glyn Thomos yn amcangyfrif y byddai’n rhaid i’r Cynulliad wario “o leiaf £100,000” i sicrhau bod y cofnod ar gael yn Gymraeg ac mae hynny ar yr amod bod modd defnyddio Google am ddim neu am “bris sydd ddim yn rhy uchel”.

‘Bras-gyfieithu ac ôl-olygu dogfen’

Dywedodd Gruffudd Prys sy’n gweithio yn Uned Technolegau Iaith Prifysgol Bangor na ddylai y Cynulliad gyhoeddi cyfieithiadau sydd wedi eu cynhyrchu gan Google Translate.

“Ni ddylid ar unrhyw gyfrif gyhoeddi bras-gyfieithiadau o’r Saesneg i’r Gymraeg mewn print neu ar y we, na cheisio ôl-olygu dogfen sydd wedi’i bras-gyfieithu yn ei chyflawnder y tu allan i feddalwedd cof cyfieithu,” meddai.

“O dan reolaeth cyfieithydd profiadol mae gan gyfieithu peirianyddol y gallu i hwyluso’n sylweddol y broses o gyfieithu dogfennau heb effeithio’n andwyol ar safon y cyfieithu,” meddai gan son am y dechnoleg cyfieithu ddiweddaraf.

“Mae dwy brif dechnoleg cyfieithu na ddylid drysu rhyngddynt, sef cyfieithu peirianyddol a chof cyfieithu.”

Dywedodd fod cyfieithwyr proffesiynol bellach yn defnyddio meddalwedd cyfieithu sy’n cofio’r holl frawddegau y maent yn eu cyfieithu – y frawddeg wreiddiol yn ogystal â’r cyfieithiad – a’u cadw mewn ‘cof cyfieithu’.

Cof cyfieithu

“Pan fydd y cyfieithydd yn cyrraedd brawddeg sy’n debyg i frawddeg sydd eisoes wedi’i chyfieithu, bydd y feddalwedd yn dangos y cyfieithiad blaenorol ac yn caniatáu i’r cyfieithydd ei ddefnyddio fel y mae, ei addasu neu gywiro, neu ei ddiystyru yn llwyr,” meddai.

“Mae’n bwysig nodi bod y feddalwedd yn parhau o dan reolaeth lwyr y cyfieithydd trwy gydol y broses, ac na chaiff yr un frawddeg a gyfieithwyd yn beirianyddol ei hychwanegu i ddogfen heb iddi’n gyntaf gael ei gwirio gan gyfieithydd.”

Dywedodd bod “defnyddio cyfieithu peirianyddol o fewn meddalwedd cyfieithu proffesiynol o dan reolaeth cyfieithydd profiadol yn gyfan gwbl briodol.”

“Dylai pob cyfieithydd proffesiynol yng Nghymru fod yn gwneud hyn,” meddai.

‘Rhy gostus’

Mae cofnodion o un o gyfarfodydd Comisiwn y Cynulliad o ganol y mis yn datgelu eu bod nhw wedi trafod cyfieithu’r Cofnod i’r Gymraeg fel ag yr oedden nhw cyn 2009, cyn penderfynu yn erbyn am ei fod yn rhy gostus.

Ers y penderfyniad gwreiddiol mae Bwrdd yr Iaith wedi ymyrryd yn y ddadl, gan gyhuddo’r Cynulliad o dorri ei gynllun iaith ei hun trwy fethu â chynnig cofnodion cwbl ddwyieithog o’r trafodaethau yn siambr y Senedd.

Dywedodd Rhodri Glyn Thomas fod y Comisiwn yn trafod “sut i ymateb yn gadarnhaol i adroddiad Bwrdd yr Iaith Gymraeg a sut i gadarnhau bod cyfieithiad ar gael”.

“Nifer fach o bobl sy’n defnyddio ac yn darllen y cyfnod yn Gymraeg,” meddai Rhodri Glyn Thomas.

“Ond, rwy’n derbyn y ddadl am yr egwyddor a statws y Gymraeg – ond rhaid bod yn ymarferol o ran arian gan geisio sicrhau cofnod o safon.

“Byddai’n warthus petai’r cynulliad o bob corff yn cyhoeddi fersiwn annigonol ac o safon gwarthus. Mae’n rhaid i’r Gymraeg fod yn gywir a safonol”.

Datganiad y Comisiwn

“Yr wythnos ddiwethaf, bu Comisiwn y Cynulliad Cenedlaethol yn trafod nifer o faterion sy’n ymwneud â gwasanaethau dwyieithog y Cynulliad, gan gynnwys cyfieithu Cofnod y Trafodion,” meddai llefarydd ar ran Comisiwn y Cynulliad.

“Bu’r Comisiwn yn ystyried y ffordd mae am ddarparu gwasanaethau dwyieithog rhagorol ar gyfer y Pedwerydd Cynulliad. Fel rhan o’i ymrwymiad i ddatblygu ac arloesi wrth ddarparu gwasanaethau dwyieithog, cytunodd mewn egwyddor ei fod am ddarparu Cofnod y Trafodion cwbl ddwyieithog.

“Yn ei gyfarfod, gofynnodd Aelodau’r Comisiwn i swyddogion barhau i archwilio dichonoldeb darparu Cofnod cwbl ddwyieithog drwy ddefnyddio dulliau cyfieithu peirianyddol a chanfod y gost o wneud hynny. Cytunodd y Comisiwn hefyd y byddai angen i unrhyw drefniadau newydd fod yn gynaliadwy yn y tymor hwy ac y dylent gael eu darparu am bris rhesymol. Bydd y Comisiwn yn ystyried canlyniadau’r gwaith ymchwil hwn yn gynnar yn yr hydref.

“Cytunodd y Comisiwn hefyd i gyflwyno deddfwriaeth newydd a fyddai’n gosod sail statudol gadarn i ddyletswyddau’r Cynulliad a’r Comisiwn o ran y ddarpariaeth o wasanaethau dwyieithog, ac i gyflwyno Cynllun Gwasanaethau Dwyieithog newydd o dan y fframwaith deddfwriaethol arfaethedig.

“Dros yr haf, bydd y Comisiwn yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar ei fersiwn ddrafft o Fil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) a’r Cynllun Gwasanaethau Dwyieithog draft. Disgwylir i’r Bil a’r Cynllun drafft fod yn barod i’w hystyried gan y Cynulliad erbyn diwedd y flwyddyn.”