Rhodri Glyn Thomas
Mae Comisiwn y Cynulliad wedi ystyried defnyddio gwefan Google Translate er mwyn cyfieithu’r Cofnod i’r Gymraeg.

Daeth i’r amlwg heddiw na fydd Cofnod y Cynulliad yn cael ei gyfieithu i’r Gymraeg yn ystod tymor nesaf y Cynulliad, wedi’r cwbl.

Mae cofnodion o un o gyfarfodydd Comisiwn y Cynulliad o ganol y mis yn datgelu eu bod nhw wedi trafod y mater a phenderfynu yn erbyn am ei fod yn rhy gostus.

Ond mae’r ddogfen yn datgelu fod aelodau’r Comisiwn hefyd wedi penderfynu ymchwilio i ddefnyddio cyfieithydd awtomatig Google Translate er mwyn cyfieithu’r cofnod.

Roedd Llywydd y Cynulliad, Rosemary Butler, a’r Aelodau Cynulliad Rhodri Glyn Thomas, Peter Black, Angela Burns a Sandy Mewies yn bresennol yn y cyfarfod.

Fe dorrodd y stori na fydd y Cofnod yn cael ei gyfieithu ar wefan Golwg 360 yn ystod yr Eisteddfod 2009 ac roedd gwleidyddion o bob plaid wedi beirniadu’r penderfyniad

Mae Bwrdd yr Iaith eisoes wedi ymyrryd yn y ddadl, gan gyhuddo’r Cynulliad o dorri ei gynllun iaith ei hun trwy fethu â chynnig cofnodion cwbl ddwyieithog o’r trafodaethau yn siambr y Senedd.

Mae dros fil o bobl hefyd wedi llofnodi deiseb o blaid Cofnod llawn ddwyieithog o’r trafodaethau yn y Cynulliad.

Y drafodaeth

“Cafodd y Cofnod o Drafodion y Cyfarfod Llawn ei drafod, gan ystyried yr adroddiad gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg, sylwadau a wnaed gan Aelodau a rhanddeiliaid, yr egwyddor o fynediad i drafodion y Cynulliad drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg, a’r angen i sicrhau gwerth am arian,” meddai’r cofnodion.

“Cytunodd y Comisiwn y dylai ymchwiliadau i ddarparu cofnod dwyieithog barhau, a gofynnodd am ragor o wybodaeth fanwl am gyfanswm y costau tebygol, gan gynnwys strwythur tâl y gwasanaeth Google Translate o fis Rhagfyr 2011 ymlaen.

“Dywedodd y Comisiwn bod angen i unrhyw drefniant fod yn gynaliadwy. Fodd bynnag, os gellid dod o hyd i ateb hirdymor am bris rhesymol, mewn egwyddor, mae’r Comisiwn yn awyddus i ddarparu Cofnod gwbl ddwyieithog.

“Yn y cyfamser, bydd trefniadau presennol yn parhau. Bydd y Llywydd yn ysgrifennu at Fwrdd yr Iaith Gymraeg ynglyn â’r mater.

“Camau i’w cymryd: Swyddogion i ddarparu rhagor o fanylion am gostau defnyddio Google Translate o fis Rhagfyr 2011 ymlaen.”

Ymateb

Dywedodd Catrin Dafydd, llefarydd hawliau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, fod y Comisiwn yn “parhau i dorri ei gynllun iaith a’r gyfraith”.

“Sut all y Comisiwn anwybyddu argymhelliad Bwrdd yr Iaith Gymraeg? Mae’n destun pryder i ni hefyd bod y Llywydd Rosemary Butler, yn ogystal â’r Comisiynwyr eraill, yn ceisio osgoi eu cyfrifoldeb dros y Gymraeg gan osod y cyfrifoldeb ar ysgwyddau un unigolyn, sef Rhodri Glyn Thomas.

“Er bod nifer o bleidiau wedi datgan eu cefnogaeth lwyr i’r angen am Gofnod yn y Gymraeg, nid yw gweithredoedd y Comisiynwyr yn adlewyrchu hynny.

“O’r cychwyn cyntaf, mae’r Cynulliad wedi dadlau nad penderfyniad ariannol yw cael gwared ar y Cofnod ond wrth ddarllen penderfyniadau diweddaraf y Comisiwn mae modd gweld yn glir ei fod yn cael llawer mwy o flaenoriaeth na’r egwyddor y sefydlwyd y Cynulliad arni sef creu sefydliad cwbl ddwyieithog.

“Pa obaith sydd gan bobl ar lawr gwlad o dderbyn gwasanaethau Cymraeg pan nad yw’r Cynulliad yn medru darparu rhywbeth mor sylfaenol â hyn?

“Mae’r sôn am declyn cyfieithu Google yn rhyfedd iawn, ac yn ymddangos yn groes i’r Mesur Iaith a basiwyd yn unfrydol gan y pleidiau i gyd y llynedd sy’n sefydlu dwy egwyddor bwysig: statws swyddogol i’r Gymraeg a pheidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

“Eisoes mae dros fil o bobl wedi llofnodi’r ddeiseb o blaid darparu Cofnod yn y Gymraeg a bydd yr ymgyrch yn parhau dros fisoedd yr haf.”