Lembit Opik
Mae aelod amlwg o’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru wedi condemnio Lembit Opik heddiw a chwestiynu a yw’n ymgeisydd addas i fod yn Faer Llundain.

Mae cyn-AS Sir Drefaldwyn, Lembit Opik, yn gobeithio ennill enwebiad y Dems Rhydd i herio Boris Johnson am gyfle i fod yn Faer Llundain.

Ond yn ôl yr Aelod Cynulliad Peter Black, mae wedi dangos diffyg teyrngarwch at aelodau ei blaid ei hun ac wedi siomi llawer.

Daw sylwadau Peter Black wedi iddo weld deunydd canfasio Lembit Opik. Yno mae’n honno ei fod wedi colli’r sedd yn 2010 oherwydd “ffrae meddwol” cyn-AC Sir Drefaldwyn, Mick Bates.

Ond mae Peter Black wedi beirniadu’r sylwadau yn ei flog heddiw, gan ddweud mai “ymddygiad tanbaid, hunanol a diffyg persbectif” Lembit Opik oedd ar fai am golli sedd Sir Drefaldwyn yn 2010.

“Lembit ei hun gollodd sedd Sir Drefaldwyn,” meddai. “Mae’n bryd iddo gymryd cyfrifoldeb am hynny.”

Troi cefn ar gyfaill

“Yr hyn sy’n fwyaf siomedig,” yn ôl Peter Black, “yw mai Mick Bates oedd un o gefnogwyr ffyddlonaf Lembit Opik.

“Pan nad oedd gan neb arall air da i’w ddweud am Lembit, roedd Mick yn ei amddiffyn. Ai dyma sut y mae yn ad-dalu’r teyrngarwch?”

Yn ôl Peter Black, dydi’r sylwadau ddim yn rhoi argraff addawol o ddyn a fyddai’n gorfod rhoi ei gefnogaeth “diamod” i ymgeiswyr ei blaid ar draws Llundain pe bai’n llwyddo i gael ei ethol yn faer.

Gwadu’r gwaed drwg

Ond mae Lembit Opik wedi wfftio “camddehongliad” Peter Black o’i sylwadau.

Yn ôl y Wales Online, mae Lembit Opik yn mynnu ei fod yn “ffrindiau da â Mick Bates” ac nad yw’n rhoi’r bai arno.

“Mae’n drueni bod gan bobol gan gynnwys Peter mwy o ddiddordeb mewn cadarnhau eu rhagdybiaethau eu hunain nag edrych ar y ffeithiau… Mae’n anodd iawn, iawn i barchu’r math yma o ddadansoddi dig ac anwybodus.”

Yn ôl Lembit Opik, fe fu’n amddiffyn Mick Bates pan oedd criw’r Cynulliad wedi troi eu cefn arno.

Roedd Sir Drefaldwyn yn cael ei hystyried yn sedd ddiogel i’r Democratiaid Rhyddfrydol yn San Steffan ac yn y Cynulliad.

Ond ers etholiad cyffredinol 2010 ac etholiad y Cynulliad ym mis Mai eleni, mae’r ddwy sedd bellach yn nwylo’r Ceidwadwyr.