Does gan bron i un ym mhob saith o oedolion Cymru ddim cymwysterau, o’i gymharu ag un ym mhob naw ar draws Ynysoedd Prydain.

Mae’r ffigyrau swyddogol gyhoeddwyd heddiw yn dangos nad oes gan 13.3% o oedolion Cymru unrhyw gymwysterau, o’i gymharu â 12.3% o oedolion yr Alban a 11.1% o oedolion Lloegr.

Yn ôl yr Undeb Prifysgolion a Cholegau, a gyhoeddodd yr arolwg, mae’r ffigyrau yn brawf fod gwrthgyferbyniad mawr rhwng rhai ardaloedd sydd drws nesaf i’w gilydd.

Mewn rhai ardaloedd, mae bron i draean o’r boblogaeth 16 i 64 oed heb unrhyw gymwysterau, tra bod cyn lleied â 2% heb gymwysterau mewn ardaloedd eraill.

Mae’r ymchwil yn seiliedig ar ddadansoddiad gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol sy’n dangos canran yr oedolion rhwng 16 a 64 oedd heb unrhyw gymwysterau yn 2010.

Dadansoddodd yr Undeb Prifysgolion a Cholegau ffigyrau yr 632 o etholaethau yng Nghymru, yr Alban a Lloegr.

Mae 35.3% o boblogaeth Gogledd Ddwyrain Glasgow heb unrhyw gymwysterau, yn ôl yr arolwg, ond dim ond 1.9% o boblogaeth etholaeth Brent North sydd yn yr un twll.

Mae Dwyrain Abertawe yn yr 25ain safle – mae 20.6% o’r boblogaeth yno heb unrhyw gymwysterau.

Ystadegau Cymru

Etholaeth Nifer heb gymwysterau Poblogaeth Canran
Dwyrain Abertawe 10,100 49,000 20.6
Rhondda 8,600 42,900 20.0
Caerffili 10,000 50,000 20.0
Merthyr Tudful a Rhymni 9,000 46,200 19.4
Cwm Cynon 8,400 44,200 19.0
Aberafan 7,400 41,000 17.9
Islwyn 8,400 48,400 17.4
Preseli Penfro 7,400 42,600 17.4
Ogwr 8,200 48,600 16.8
Llanelli 8,500 50,500 16.8
Blaenau Gwent 7,100 43,500 16.2
De Caerdydd a Phenarth 10,600 67,300 15.7
Torfaen 8,000 51,600 15.4
Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro 7,200 48,000 15.0
Aberconwy 4,300 28,800 14.9
Arfon 5,600 38,000 14.6
Castell-Nedd 6,300 45,300 13.8
Dwyrain Casnewydd 6,200 46,200 13.5
Gorllewin Casnewydd 7,000 51,800 13.4
Gorllewin Abertawe 6,600 51,300 12.9
De Clwyd 5,800 45,200 12.7
Dyffryn Clwyd 5,400 43,500 12.4
Ynys Mon 5,100 41,700 12.3
Gorllewin Clwyd 5,600 46,200 12.2
Dwyfor Meirionnydd 4,200 35,200 12.0
Delyn 5,500 46,300 11.9
Gorllewin Caerdydd 7,900 66,900 11.8
Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr 4,500 39,500 11.4
Pontypridd 5,800 51,500 11.3
Bro Morgannwg 6,200 59,300 10.4
Sir Drefaldwyn 4,100 39,800 10.4
Gwyr 5,000 48,700 10.3
Pen y Bont ar Ogwr 4,700 46,100 10.1
Sir Fynwy 4,900 49,000 10.0
Ceredigion 3,900 48,500 8.0
Wrecsam 3,300 44,500 7.5
Canol Caerdydd 3,900 56,200 6.9
Gogledd Caerdydd 4,000 61,000 6.5
Alun a Glannau Dyfrdwy 3,100 49,800 6.3
Cymru Gyfan 252,200 1,893,400 13.3

‘Hollt’

Dywedodd yr undeb fod eu hymchwil yn dangos fod ardaloedd sydd â chanran uchel o bobol sydd â chymwysterau, a rhai sydd heb, yn byw ochor yn ochor mewn dinasoedd mawr.

Mae trigolion Newcastle-upon-Tyne Central ddwywaith yn llai tebygol o feddu ar unrhyw gymhwysterau (17%) na phobol Newcastle-upon-Tyne North (9.7%) meddai’r undeb.

“Mae Prydain wedi ei hollti rhwng y rheini sydd wedi cael addysg a’r rheini sydd heb,” meddai Sally Hunt, ysgrifennydd cyffredinol yr undeb.

“Mae yna ddinasoedd a siroedd lle mae’r rheini sydd wedi cael mynediad at addysg yn byw ochor yn ochor â phobol sydd â llawer llai o gyfleoedd.

“Mae yna berygl difrifol y bydd plant sy’n digwydd cael eu magu mewn ardaloedd penodol byth yn cyrraedd eu potensial.”