Andrew RT Davies
Yn ôl Arweinydd newydd y blaid Geidwadol yn y Cynulliad, dim ond dau ddewis sydd gan bobol Cymru erbyn hyn –  y blaid Lafur neu’r blaid Geidwadol.

Ar ôl cael ei ethol gan 53% o’r aelodau a wnaeth bleidleisio, fe ymosododd Andrew RT Davies yn chwyrn ar y blaid Lafur a dweud nad oedd y Rhyddfrydwyr a Phlaid Cymru yn y ras am rym yn y Cynulliad bellach.

“Dw i ddim yn siŵr beth mae’r cenedlaetholwyr yn ei gynnig. Maen nhw’n cecru ymysg ei gilydd ac yn cynnig rhyw fath o ddogma asgell chwith sydd yn amlwg wedi methu yng Nghymru,” meddai AC Canol De Cymru.

Mae’n mynnu bod y Rhyddfrydwyr yn fwy amherthnasol byth: “Alla’ i ddim hyd yn oed gweld y Rhyddfrydwyr ar y scale ar hyn o bryd.

“Mae ganddoch chi’r blaid Geidwadol neu’r blaid Lafur. R’yn ni wedi cael deuddeng mlynedd o fethiant y blaid Lafur yma yng Nghymru. Mi fyddwn i’n hoffi iddyn nhw ddangos i mi lwyddiant yn y maes iechyd, y maes economeg neu’r maes addysg.”

Darllenwch weddill yr erthygl yng nghylchgrawn Golwg, 21 Gorffennaf