Ieuan Wyn Jones (Llun Plaid Cymru)
Mae arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones, yn dweud y bydd yn cyhoeddi’n “fuan” pryd y bydd yn gadael y swydd.
Ar gyfweliad gyda Radio Wales, fe ddywedodd na fyddai’n rhaid i aelodau’r Blaid “aros yn rhy hir”.
Mae wedi cael ei feirniadu am rai am gyhoeddi y bydd yn ymddeol yn ystod y ddwy flynedd nesaf, ond heb fod yn fwy manwl na hynny.
Eisoes, mae cyn Lywydd Plaid Cymru, Dafydd Elis-Thomas, wedi dweud ei fod yn bwriadu cynnig am y swydd.
Balch o’i record
Fe ddywedodd Ieuan Wyn Jones hefyd ei fod yn falch o’r hyn y mae wedi ei gyflawni yn ystod ei gyfnod yn arwain y Blaid.
Roedd hi bellach mewn “lle gwahanol”, meddai, ar ôl ennill refferendwm i gael datganoli pellach ac ar ôl bod yn rhan o lywodraeth clymblaid am bedair blynedd.
Fe dderbyniodd nad oedd ganddo gymaint o garisma â gwleidyddion fel Prif Weinidog yr Alban, Alex Salmond, ond roedd unrhyw arweinydd gwleidyddol yn sicr o gael ei feirnadu, meddai.