Y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews
Mae’r Gweinidog Addysg a Sgiliau, Leighton Andrews, wedi datgelu pwy fydd ar y panel fydd yn cyfweld ymgeiswyr ar gyfer swydd Comisiynydd y Gymraeg.
Caiff y panel ei gadeirio gan Dr. Emyr Roberts, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Adran Addysg a Sgiliau.
Yr aelodau eraill fydd:
Rhodri Glyn Thomas AC, a enwebwyd gan y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol
Syr Roderick Evans, sydd “wedi cytuno i ymuno â’r panel fel rhywun sydd â phrofiad o hybu’r defnydd o’r Gymraeg, yn enwedig o fewn y system gyfreithiol”.
Mrs Elspeth Mitcheson, sydd “wedi cytuno i fod ar y panel fel asesydd annibynnol sydd wedi’i hachredu gan y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus”.
Bydd y panel dethol a fydd yn gyfrifol am gyfweld ag ymgeiswyr ag argymhell yr ymgeisydd gorau i’r Prif Weinidog.
Hysbysebu
“Gallaf hefyd gadarnhau y bydd rôl Comisiynydd y Gymraeg yn cael ei hysbysebu yr wythnos hon ac mai 15 Awst fydd y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau,” meddai Leighton Andrews.
“Bydd hysbysebion yn ymddangos yn y Western Mail, Golwg, Y Cymro, Daily Post; arlein yn Jobs Wales a Golwg 360 ac ar wefan Llywodraeth Cymru.
“Rwy’n falch iawn ein bod wedi gallu hysbysebu’r rôl holl-bwysig hon yn gynnar ac edrychaf mlaen at glywed beth fydd penderfyniad y Prif Weinidog o ran yr ymgeisydd llwyddiannus yn yr hydref.”