Fe ddylai’r Comisiynydd Iaith newydd fod yn berson cryf sy’n gallu sefyll tros hawliau pobol gyffredin, meddai Cymdeithas yr Iaith.

Maen nhw hefyd yn galw am wneud yn siŵr y bydd y swyddog newydd yn annibynnol ar y Llywodraeth.

Fe fydd y swydd newydd, sy’n cymryd rhai o bwerau Bwrdd yr Iaith a rôl yn plismona cwynion hawliau iaith, yn cael ei hysbysebu’r wythnos hon.

“Mae’r Ddeddf  Iaith yn ffafrio busnesau ond mae’r Comisiynydd yn gallu gwneud iawn am hynny,” meddai Cadeirydd y Gymdeithas, Bethan Williams.

“Fydden ni’n hoffi gweld pwyslais ar rywun sy’n annibynnol a chry’ – mae eisiau rhoi pwyslais ar fuddiannau’r bobol yn hytrach na busnes.”

  • Fe fydd y Gweinidog tros y Gymraeg, Leighton Andrews, yn rhoi ei farn yn y rhifyn nesa’ o gylchgrawn Golwg.