Swyddfa Llywodraeth Cymru
Mae Llywodraeth Cymru’n chwilio am “berson brwdfrydig” i gymryd swydd newydd allweddol y Comisiynydd Iaith.

Fe fydd hysbysebion yn ymddangos yn y wasg yn ystod y dyddiau nesa’ ar gyfer y penodiad newydd, a fydd yn gyfrifol am blismona cynlluniau iaith ac ymchwilio i anghyfiawnder yn erbyn siaradwyr Cymraeg.

Fe fydd cyflog o tua £95,000 ar gyfer y swydd sy’n dod i fod yn sgil Deddf yr Iaith Gymraeg y llynedd.

‘Sgiliau a phrofiad’

Mae’r hysbysebion hefyd yn gofyn am “y sgiliau a’r profiad perthnasol” i wneud y swydd ac am allu i “weithio’n effeithiol” trwy gyfrwng y Gymraeg.

Does dim awgrym yn yr hysbysebion pa fath o sgiliau fydd eu hangen ond fe fydd rhaid bod yn barod i ymchwilio “i honiadau o ymyrraeth â rhyddid unigolion sy’n dymuno defnyddio’r Gymraeg yng Nghymru”.

Fe fydd y Comisiynydd yn cymryd rhai o bwerau Bwrdd yr Iaith i hybu a hwyluso defnydd o’r iaith ac i fonito cynlluniau iaith, tra bydd cyfrifoldebau am hyrwyddo’r iaith yn mynd yn uniongyrchol o dan adain Llywodraeth Cymru.