Y band roc a rôl Edward H Dafis yn ei anterth yn y 1970au
Edward H. Dafis, grŵp roc Cymraeg enwoca’r 70au, fydd yn edrych yn ôl ar y bywyd roc a rôl mewn rhifyn arbennig o’r gyfres Cofio nos Sadwrn nesaf (23 Gorffennaf) ar S4C.

Yn Cofio gydag Edward H Dafis, bydd Dewi ‘Pws’ Morris, Hefin Elis, John Griffiths, Charli Britton a Cleif Harpwood yn trafod y dylanwadau cerddorol a gwleidyddol ar eu cerddoriaeth arloesol ac yn datgelu’r rhesymau dros y chwalfa ym 1976 a’r pwysau i ail-ddechrau ddwy flynedd yn ddiweddarach.

Gyda chyfraniadau gan rai o’u dilynwyr ffyddlon mae’r rhaglen yn cynnwys archif ffilm gwych o berfformiadau gorau’r band gan gynnwys y noson ffarwel fythgofiadwy ym Mhafiliwn Corwen yn ogystal â’r gyngerdd gyntaf ar ôl ail-ffurfio yn Nhalybont ym 1978.

Yn ogystal â defnyddio archif gerddorol gyfoethog o hen gyfweliadau a chyngherddau’r band, cawn gyfle i glywed atgofion, storïau a chyfrinachau direidus aelodau’r band bron i ddeugain mlynedd ers iddyn nhw ffurfio ym 1973.

“Buon ni mor llwyddiannus, fi’n credu, achos y ffaith bod pobol yn joio gweld ein bod ni’n joio eu gweld nhw’n joio, a bod y peth yn bownso ’nôl a mla’n,” meddai Dewi Pws.

Dywed Cleif Harpwood fod rhai wedi eu hannog nhw i gyfieithu eu caneuon nhw er mwyn mynd yn broffesiynol a gwneud yn dda yn y byd cerddorol Saesneg.

“Ond i mi, nid dyna oedd y bwriad,”  meddai wedyn. Roedd y bwriad yn wleidyddol.  Y bwriad oedd defnyddio’r Gymraeg i roi haen arall, haen gyfoes i’n pobl ifanc ni, ac i’r genedl yn gyffredinol.”