Dr Gwion Rhys
Mae teulu meddyg oedd yn dad i bedwar o blant wedi talu teyrnged iddo wedi iddo farw mewn damwain car ar Ben Llŷn ddydd Mawrth.

Fe fu farw Dr Gwion Rhys, 38, ar ôl gwrthdrawiad rhwng ei gar a thractor ar y B4534 ym Mhentref Uchaf ger Pwllheli am 3.10pm.

Roedd yn dod yn wreiddiol o Bow Street ger Aberystwyth ond roedd wedi bod yn feddyg teulu yn Nefyn ers 10 mlynedd, ac yn byw yn Llanarmon, ger Chwilog.

Mae tudalen wedi ei sefydlu ar Facebook er mwyn i gyfeillion gael gadael teyrngedau iddo.

Teyrnged

“Yn enedigol o bentre Bow Street yng Ngheredigion, fe ddaeth Gwion yn feddyg teulu yn Nefyn a Llanaelhaearn ddeng mlynedd yn ôl. Roedd pobl yn bwysig iawn iddo, ac ers y drasiedi ddydd Mawrth ry’n ni wedi clywed maint gwerthfawrogiad y gymuned o’i  waith,” meddai’r teulu mewn datganiad sydd wedi ei ryddhau gan yr heddlu.

“Ond yn bennaf, dyn ei deulu oedd Gwion Rhys. Yn ŵr i Manon, yn dad i Owain, Luned, Ifan a Deio, yn frawd i Garmon ac yn fab i Enid ac Alun Jones. Ei deulu oedd ei flaenoriaeth bob amser.

“Roedd gwaith llaw, yn enwedig gwaith coed, yn ddileit arbennig ganddo. Ei ddiddordeb mawr arall oedd cyfrifiaduron. Fe drosglwyddodd y diddordeb hwn i’w waith gan ddatblygu systemau cyfrifiadurol oedd o gymorth iddo i dynnu sylw at afiechydon mewn cleifion. Lledaenwyd y system hon ymhlith meddygfeydd ar draws Cymru.

“Mae ei farwolaeth yn golled enfawr i’w deulu a hefyd i’w gymdogaeth y gwnaeth pob ymdrech i fod yn rhan ganolog ohoni.  Roedd yn ŵr addfwyn a pharod ei gymwynas a welai ddaioni bob amser yn ei gydnabod.”

Gwybodaeth

Mae’r heddlu wedi galw am wybodaeth yn dilyn y gwrthdrawiad. Cafodd y ffordd ei gau am sawl awr wrth iddyn nhw ymchwilio.

Cafodd ambiwlans ac ambiwlansiau awyr eu hanfon a defnyddiodd criwiau tân o Nefyn a Pwllheli offer torri i ryddhau Gwion Rhys o’r car. Fe fu farw yn y fan a’r lle.

Cafodd gyrrwr y tractor, sydd heb ei enwi, ei drin am sioc.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio 101 os yng Nghymru, neu 0845 607 1001.