Swyddfa y Cynulliad yn Llandudno
Mae Plaid Cymru wedi galw ar i Lywodreath Cymru ddatgelu a ydyn nhw’n ystyried cau rhai o’u swyddfeydd rhanbarthol ai peidio.

Daw’r galwad wedi i Lywodraeth Cymru gyhoeddi datganiad oedd yn gwrthod dweud a oedden nhw’n bwriadu cau swyddfeydd yng Nghaernarfon, Caerfyrddin, y Drenewydd a Llandrindod.

Pwysleisiodd llefarydd Plaid Cymru ar yr economi, Alun Ffred Jones, bwysigrwydd y swyddfeydd i’w heconomïau lleol.

Daw ei sylwadau yn dilyn pryderon a godwyd gan undeb y PCS y gallasai’r llywodraeth fod yn bwriadu cau y swyddfeydd.

Dywedodd Alun Ffred Jones AC fod Plaid Cymru wedi gwrthod unrhyw gynllun i gau swyddfeydd rhanbarthol yng Nghymru pan oeddent mewn llywodraeth.

Ychwanewgodd fod swyddfa Llywodraeth Cymru yn ei etholaeth ef, Arfon, yn cyflogi tua chant o staff, ac y byddai colli’r incwm hwnnw yn ergyd i economi lleol Caernarfon.

‘Swyddi pwysig’

“Dywedwyd wrth bobl yng Nghymru gan Lafur yn ystod yr etholiad y buasent yn eu gwarchod rhag y toriadau,” meddai Alun Ffred Jones AC.

“Mae’r swyddfeydd rhanbarthol hyn yn hanfodol bwysig i’r cymunedau maent yn eu gwasanaethu. Nid yn unig y maent yn helpu i ddod â gwaith Llywodraeth Cymru i ranbarthau sydd yn aml ymhell oddi wrth ddemocratiaeth Gymreig, ond y maent hefyd yn gyflogwyr lleol allweddol.

“Buasai torri unrhyw rai o’r gwasanaethau hyn yn ergyd enbyd i’r ardaloedd hyn. Dylai  Llafur fod yn canolbwyntio ar sicrhau dosbarthiad cyfartal o swyddi Llywodraeth Cymru trwy Gymru.

“Mae’n glir o’r datganiad a ryddhawyd ganddynt nos Fawrth a’u methiant i wneud unrhyw ymrwymiadau cadarn yn y ddadl heddiw fod Llafur yn ystyried o ddifrif cau nifer o swyddfeydd rhanbarthol y llywodraeth.

“Pan oedd Plaid Cymru mewn llywodraeth, gwrthodasom y cynlluniau hyn ac yr ydym wedi ymrwymo i’w hymladd yn awr ein bod yn wrthblaid.

“Os bydd Llafur yn cau’r swyddfeydd rhanbarthol hyn neu yn torri swyddi bydd yn anfon neges glir nad ydynt yn poeni am Gymru wledig.

“Yn waeth byth, byddant yn cadarnhau nad oedd eu haddewidion adeg yr etholiad yn rhai dilys ac, ymhell o warchod pobl rhag toriadau, byddant yn uniongyrchol gyfrifol am eu dwyn i gymunedau Cymru.”