Mae adroddiad newydd yn awgrymu mai pobol ifanc sydd wedi diflasu sy’n bennaf gyfrifol am gynnau miloedd o dannau bwriadol  yn ne Cymru.

De Cymru yw’r lle gwaethaf ym Mhrydain am dannau bwriadol, yn ôl yr adroddiad Tanau Gwyllt yng Nghymru, ac mae’n costio £7m y flwyddyn i’w diffodd nhw.

Roedd tua 55,000 o dannau gwair a 550 o dannau mewn coedwigoedd yn ne Cymru rhwng 2000 a 2008, yn ôl yr adroddiad.

Roedd tanau yn fwy cyffredin mewn ardaloedd difreintiedig, yn enwedig y Rhondda a Chwm Afan.

Cafodd dros 1,000 o bobol yr ardal eu holi fel rhan o’r adroddiad, ond dim ond 33% oedd yn credu fod tannau bwriadol yn broblem yn ne Cymru.

Roedd y rhan fwyaf yn beio pobol ifanc, er eu bod nhw’n fwy parod i feio ffermwyr yn ne orllewin Cymru.

‘Diflastod’

Mae’r adroddiad yn galw am ragor o gydweithio rhwng awdurdodau lleol, y gwasanaethau brys a chymunedau.

Nod yr adroddiad yw adnabod pam fod pobol yn cynnau tannau bwriadol. Roedd diflastod, ymdeimlad o wrthryfela, a salwch meddwl ymysg y rhesymau cyffredin.

“Mae cynnau tanau bwriadol yn costio miliynau, yn difetha tir ac yn peryglu bywydau,” meddai Peter Clarke o Gomisiwn Coedwigaeth Cymru.

“Drwy adnabod a deall pam fod pobol yn mynd ati i gynnau’r tannau fe allen ni gydweithio’n well ag awdurdodau lleol, y gwasanaethau tân ac achub a grwpiau cymunedol er mwyn cynllunio polisïau effeithiol i fynd i’r afael â’r broblem.”

Cafodd yr adroddiad 107 tudalen ei noddi gan y Comisiwn Goedwigaeth, a Gwasanaethau Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a De Cymru.