Logo Cyngor Mon - un sydd wedi methu
Mae Prif Weinidog Cymru wedi rhybuddio cynghorau lleol nad oes modd cario ymlaen heb ragor o gydweithio.

Mae’r Llywodraeth am gyflwyno mesur i orfodi cydweithio – yn ôl Carwyn Jones, roedd hynny’n cydnabod fod cydweithio gwirfoddol wedi methu.

Fe fydd y mesur yn gorfodi cynghorau i rannu rhai prif swyddogion a gweithio gyda’i gilydd i gynnig gwasanaethau.

Mae rhai awdurdodau lleol yn trio’n galed i gydweithio, ond dyw eraill yn gwneud fawr ddim, meddai mewn cyfweliad ar Radio Wales.

Roedd llawer o gynghorau lleol yn rhy fach i geisio cynnig pob gwasanaeth ar eu liwt eu hunain.

‘Hanfodol’

“Mae’n hollol hanfodol fod cynghorau lleol yn cydweithio,” meddai. “Un peth na allwn ei wneud yw cario ymlaen fel y buon ni.

“Mae awdurdodau lleol wedi bod yn siarad ers amser hir am yr angen i gydweithio ond ychydig iawn o dystiolaeth o hynny sydd wedi’i weld.

“Rhaid i ni sicrhau bod awdurdodau lleol yn gweithio gyda’i gilydd i wella gwasanaethau.”