Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru
Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones wedi wfftio beirniadaeth ynglŷn ag oedi wrth gyflwyno rhaglen ddeddfu Llywodraeth Cymru.

Dros ddeufis ar ôl ennill Etholiadau’r Cynulliad, datgelodd ei lywodraeth eu cynlluniau deddfwriaethol ar gyfer pedwerydd tymor y Cynulliad, ddoe.

Mae’r 21 mesur a amlinellwyd gan y Prif Weinidog yn cynnwys dau ar addysg yn ogystal â newidiadau i’r system rhoi organau.

Ond wrth groesawu cyhoeddi’r rhaglen ddeddfu dywedodd y pleidiau eraill eu bod nhw wedi gorfod disgwyl y rhy hir.

‘Tindroi’

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones, ei fod yn ddydd “hanesyddol” i Gymru, ond cyhuddodd Llafur o dindroi.

“Erbyn i’r mesur cyntaf gael ei gyhoeddi yn yr hydref fe fydd y llywodraeth yma eisoes wedi bod mewn grym ers pum mis heb gyflwyno unrhyw ddeddfwriaeth gynradd,” meddai.

Ychwanegodd AC Plaid Cymru dros Ogledd Cymru, Llyr Huws Gruffydd ei fod yn “bechod ein bod wedi gorfod aros cyhyd i glywed y cyhoeddiad hanesyddol heddiw”.

“Mae’r llywodraeth wedi gwastraffu misoedd gwerthfawr cyn cychwyn ar eu deddfwriaeth. Bydd yn amlwg yn cymryd mwy o amser o lawer i gynhyrchu rhaglen derfynol ar gyfer llywodraeth, i gynnwys y gwaith a wna heb ddeddfwriaeth newydd, ac yn erbyn hyn y bernir ei record am gyflawni,” meddai.

Dywedodd arweinydd dros dro’r Ceidwadwyr, Paul Davies, ei fod yn edrych ymlaen at weithio â Llywodraeth Cymru ond rhybuddiodd nad oedd yna “unrhyw esgusodion ar ôl”.

Roedd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Kirsty Williams, yn pryderu y bydd y mesur ar lywodraeth leol yn ad-drefnu cynghorau Cymru “drwy’r drws cefn”.

‘Manwl’

Dywedodd Carwyn Jones mai dyma oedd y “rhaglen fwyaf manwl sydd wedi ei gyflwyno gerbron Aelodau’r Cynulliad ers creu’r Cynulliad”.

“Rydyn ni’n bwriadu defnyddio ein grymoedd newydd i greu Cymru lle mae yna gyfiawnder cymdeithasol a Chymru sy’n darparu cyfloed i bawb,” meddai.

Ychwanegodd eu bod nhw’n bwriadu darparu “system addysg sy’n caniatáu i’n plant gyrraedd eu potensial llawn” a “chael y gorau o’n hawdurdodau lleol”.

Enillodd y Cynulliad rymoedd pellach i greu deddfau mewn 20 maes mewn refferendwm ym mis Mawrth.

Ond mae’r Blaid Lafur un sedd yn brin o fwyafrif yn y Cynulliad, ac fe fydd yn gorfod taro bargen â’r pleidiau eraill er mwyn sicrhau fod y rhaglen ddeddfwriaethol yn llwyddiant.

“Mae’n anochel ac yn briodol fod y gwrthbleidiau yn sicrhau bod y Llywodraeth yma yn gwneud ei waith,” meddai’r Prif Weinidog.

“Fe ddylen ni geisio dod o hyd i gonsensws os yn bosib, a datblygu gwleidyddiaeth Gymreig unigryw er lles y cymunedau yr ydyn ni’n eu cynrychioli, heb droi at sgorio pwyntiau gwleidyddol.