Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones
Fe fydd cynghorau’n cael eu gorfodi i weithio gyda’i gilydd o dan ddeddfwriaeth y bydd Llywodraeth Cymru’n ei chyflwyno dros y pum mlynedd nesaf.

Ac fe fydd deddfau eraill yn cyflwyno rhagdybiaeth o ganiatâd i roi organau, ynghyd â mesurau i fynd i’r afael ag ysgolion sy’n gwneud yn wael.

Fe gafodd hyn ei gadarnhau wrth i Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones gyhoeddi blaenoriaethau deddfwriaethol ei lywodraeth yn y Senedd y prynhawn yma.

“Dyma’r rhaglen fwyaf manwl ar gyfer llywodraethu a gyflwynwyd erioed i Aelodau’r Cynulliad ers sefydlu’r Cynulliad,” meddai.

Yn sgil y bleidlais Ie yn y refferendwm ym mis Mawrth, fe all y Cynulliad basio’i ddeddfau ei hun ar faterion penodol heb orfod ymgynghori â San Steffan.

Ymhlith y meysydd a nododd fel rhai y bydd biliau ei lywodraeth yn ymwneud â nhw mae:

  • Gorfodi awdurdodau lleol i gydweithio mwy wrth ddarparu gwasanaethau.
  • Cynllun i wella diogelwch bwyd a rhoi gwybodaeth sy’n hawdd i’w deall i gwsmeriaid.
  • Y Bil Rhoi Organau – a fydd yn creu system lle bydd yn ofynnol datgan dewis peidio â rhoi, yn lle datgan parodrwydd fel ar hyn o bryd
  • Bill Addysg Ysgolion a Safonau er mwyn mynd i’r afael ag ysgolion gwael
  • Diwygio gwasanaethau cymdeithasol fel eu bod yn addas ar gyfer poblogaeth sy’n heneiddio
  • Camau i ddefnyddio tai gwag, â gwella safonau a hawliau tenantiaid yn y sector rhentu preifat.
  • Gosod dyletswydd ar gynghorau i ddarparu a chynnal llwybrau beicio
  • Sicrhau bod y system gynllunio’n fwy tryloyw.

Wrth grynhoi, meddai Carwyn Jones:

“O greu system addysg sy’n caniatáu i’n plant gyflawni hyd eithaf eu gallu, a sicrhau’r gwerth gorau gan ein hawdurdodau lleol, rydym yn bwriadu defnyddio’r pwerau newydd sydd gennym i greu Cymru lle y mae gennym gyfiawnder cymdeithasol a lle y gallwn greu cyfleoedd i bawb.”