Y Gweinidog Diwylliant Jeremy Hunt
Mae Gweinidog Diwylliant San Steffan wedi addo heddiw y bydd bron i £57 miliwn yn cael ei fuddsoddi yn rhwydwaith band-llydan Cymru.  

Yn ôl Jeremy Hunt, gobaith Llywodraeth Prydain yw y bydd gan Brydain y cysylltiadau rhyngrwyd gorau yn Ewrop erbyn 2015.  

Mae’r adroddiad diweddaraf gan reoleiddiwr y diwydiant yn dangos mai yng Nghymru y bydd yr her mwyaf er mwyn gwireddu hynny – gyda cysylltiad rhyngrwyd yng Nghymru yn arafach nag unrhywle arall ym Mhrydain.  

San Steffan yn rhoi her i’r Cynulliad  

Mae llywodraeth San Steffan wedi gosod targed iddyn nhw’u hunain heddiw, o gael “band-llydan cyflym iawn” i 90% o gartrefi a busnesau’r Deyrnas Unedig, ac sicrhau bod pob un cartref a busnes yn derbyn cyswllt o ddau megabit yr eiliad o leia’.  

Dywedodd Jeremy Hunt bod yr arian i Gymru yn fwy na 10% o’r buddsoddiad £530 miliwn sydd wedi ei benodi ar gyfer holl wledydd Prydain – ac maen nhw wedi galw ar Llywodraeth Cymru i gyfrannu’r un faint.  

“Mae band-lydan cyflym iawn yn hanfodol os yw busnesau i dyfu a chreu swyddi newydd. Mae’n gynyddol bwysig i’r ffordd rydyn ni’n darparu gwasanaethau cyhoeddus yn ogystal â’n bywydau bob dydd,” meddai.  

“Rydyn ni’n buddsoddi £56.9 miliwn er mwyn mynd â band-llydan i Gymru gyfan. Os bydd Llywodraeth Cymru yn cyfateb ein buddsoddiad ni â’r un faint o arian, bydd 90% o gartrefi a busnesau’r wlad yn gallu cael band-llydan cyflym iawn.”  

 Mae swyddogion Stryd Downing yn dweud nod rhannu’r arian rhwng gwledydd y DU wedi ei wneud ar sail y gost o fynd â band-llydan cyflym iawn i fannau lle na fyddai’r farchnad arferol wedi ei gario, yn hytrach nag yn ôl nifer y boblogaeth na ffigyrau’r di-waith.  

Mae’r corff rheoleiddio Ofcom yn diffinio band-llydan cyflym iawn ar sail cyflymder dros 24 megabit yr eiliad.

 Cymru â’r cysylltiadau arafaf  

Ym mis Mehefin, cyhoeddodd Ofcom arolwg yn dweud fod gan 68% o leoliadau yn y Deyrnas Unedig â chyswllt band-llydan parhaol, gyda chyflymder cyfartaledd o 7.5 megabit yr eiliad.  

Roedd map o leoliadau band-llydan y DU hefyd yn dangos mai yng Nghymru mae’r cysylltiad arafaf ar draws holl wledydd y DU.  

Mae Llywodraeth Cymru wedi pwysleisio ei bod wedi ymrwymo i sicrhau bod pob cartref a busnes yn gallu cael gafael ar ‘Fand-Llydan y Genhedlaeth Nesaf’ erbyn 2015, gyda’r amcan o scrhau bod gan o leia’ hanner y boblogaeth 100 megabit yr eiliad.  

Dywedodd y gweinidog busnes Edwina Hart fod “darparu Band-Llydan y Genhedlaeth Nesaf i bob cartref a busnes yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru.  

“Mae ganddon ni hanes o fuddsoddi er mwyn cynyddu’r band-llydan sydd ar gael, a defnydd ohono, yng Nghymru,” meddai.  

“Mae medru cael gafael ar band-llydan cyflym a dibynadwy yn yr 21ain ganrif yn hanfodol i’n busnesau a’n cartrefi er mwyn iddyn nhw gael cysylltiad â’r gwasanaethau a’r cyfleon sy’n cael eu cynnig gan dechnolegau digidol.”