Y Prif Weinidog, David Cameron
Mae economi Cymru’n rhy ddibynnol ar y wladwriaeth, yn ôl y Prif Weinidog David Cameron, wrth annerch Aelodau’r Cynulliad yng Nghaerdydd y prynhawn yma.

Gan gadarnhau y bydd ymchwiliad yn cael ei gynnal i’r ffordd y mae Cymru’n cael ei hariannu, mynnodd fod Cymru wedi cael ei thrin yn ffafriol yn rhaglen leihau dyledion Llywodraeth Prydain.

“Er mwyn i Gymru ddatblygu dyfodol economaidd mwy cynaliadwy, rhaid i ni yn San Steffan weithredu’n gyfrifol ac yn feddylgar,” meddai.

“Dyma pam rydyn ni wedi sicrhau bod yr adolygiad ar wario wedi effeithio llai ar Gymru nag ar rannau eraill y Deyrnas Unedig.”

Fe gadarnhaodd hefyd ymrwymiad ei lywodraeth i ‘chwyldroi’r sector cyhoeddus’, ond cyfaddefodd hefyd fod angen i San Steffan ddysgu ychydig o wersi oddi wrth y Cynulliad.

“Mae’r Cynulliad yn fwy gwaraidd na rhai o’r sesiiynau a gynhelir yn San Steffan,” meddai ar ddechrau ei anerchiad.

Problemau economaidd

Ar yr un pryd, mynegodd bryder am ddyfodol Cymru.

“Rhaid i bawb ohonon ni gydnabod bod economi Cymru’n rhy ddibynnol ar y wladwriaeth,” meddai.

 “Mae gan Gymru rai o’r rhannau tlotaf yn y Deyrnas Unedig. Mae diweithdra’n dal yn annerbyniol o uchel. Mae gormod o bobl wedi eu dal mewn dibyniaeth ar fudd-daliadau. Mae miloedd o blant yn tyfu i fyny mewn tlodi caled.

“Mae hyn yn sen ar bopeth y gall ac y dylai Cymru fod.

“Y dasg yw i bawb yn yr ystafell yma dynnu Cymru o’r llanast yma a rhoi iddi ddyfodol mor ogoneddus â’i gorffennol.”

Yn groes i’r disgwyl, ni roddodd unrhyw fanylion pellach am yr ymchwiliad i’r ffordd y mae Cymru’n cael ei hariannu – y disgwyl erbyn hyn yw y bydd y rhain yn cael eu cyhoeddi cyn diwedd yr wythnos.