Meirion Appleton gyda staff Cymdeithas Bêl-droed Cymru

Dyma’r pedwerydd yn y gyfres o ddyfyniadau o hunangofiant Meirion Appleton – ‘Appy: Bont, Busnes a Byd y Bêl’ sy’n cael eu cyhoeddi ar Golwg360.

Yma mae Appy’n sôn am ei berthynas â’r brodyr Giggs

Fe ges i gryn gyhoeddusrwydd pan wnes i arwyddo Rhodri Giggs, brawd bach Ryan.

Drwy Mike Smith, un o gefnogwyr Dinas Bangor, y ces i enw Rhodri. Mae Rhodri yn fachgen hyfryd er iddo fynd i drafferthion gyda’r gyfraith a threulio cyfnod mewn carchar. Mae gorfod byw yng nghysgod ei frawd mawr wedi cael effaith arno. Yn wir, am gyfnod fe fu’n galw’i hun yn Rhodri Jones rhag i bobl ei gysylltu â Ryan.

Roedd e’n chwaraewr da yng nghanol y cae ac roedd ganddo’r gallu i sgorio gôls. Yn aml iawn byddai ei fam yn dod i’w wylio’n chwarae. Byddai’n dweud wrtha i’n aml ei bod hi’n bwysig ei bod hi’n rhoi’r un sylw i’r ddau.

Erbyn hyn, wrth gwrs, achoswyd hollt rhwng y ddau oherwydd misdimanyrs honedig ei frawd hŷn. Mae hyn wedi bod yn drasiedi deuluol. Roedd Rhodri yn ystyried Ryan yn arwr ac yn aml iawn Ryan fyddai’n ei helpu i oresgyn ei broblemau personol. Wn i ddim mo’r stori’n llawn, ond mae gen i drueni drosto. Roedd gorfod byw yng nghysgod Ryan yn faich digon trwm heb i hyn ddigwydd.

Fe fyddai gan Rhodri gar newydd gwahanol bob wythnos. Cael eu benthyg oedd e – ceir yr oedd cwmnïau’n eu benthyca’n wreiddiol i Ryan fel ceir prawf. Ond roedd e’n fachan unig yn y bôn, bachan ansicr. Mae e’n dal yn rheolwr chwaraewr i Salford City.

Y brawd mawr

Fe welais i Ryan Giggs yn chwarae gyntaf mewn gêm brawf ar gyfer tîm ysgolion Cymru o dan 16 ym Mlaendolau yn Aberystwyth. Fe’i gyrrwyd yno gan Nobby Stiles. Aeth e’n syth o’r car i’r cae ac ar ddiwedd y gêm fe aeth yn ôl i’r car heb fod ar gyfyl y stafell newid. Enillodd ei dîm 7-0. Sgoriodd e ddim, ond fe wnaeth greu pob gôl.

Yn anffodus fe aeth ymlaen i chwarae dros ysgolion Lloegr cyn penderfynu chwarae dros Gymru ar y lefel uchaf.

Flynyddoedd wedyn roedd ffrind i mi, Gerallt Davies, mewn gwesty ym Mro Morgannwg yn trafod busnes gyda’r chwaraewr rygbi Iestyn Harris. Yno hefyd roedd carfan bêl-droed Cymru. Fe ofynnodd Ryan i Gerallt o ble’r oedd e’n dod. Pan atebodd ‘Aberystwyth’ dyma Ryan yn dweud wrth Gerallt, ‘Mae’n rhaid dy fod ti felly’n adnabod Appy.’ Pan glywais i hynny ro’n i’n teimlo braidd yn falch.

Fe fydd yr olaf o’r gyfres o ddyfyniadau yn cael ei gyhoeddi fory. Mae ‘Appy: Bont, Busnes a Byd y Bêl’ yn cael ei gyhoeddi gan Y Lolfa ac mae lansiad swyddogol y gyfrol yn y Marine, Aberystwyth ar nos Fercher 13 Gorffennaf.